Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Canolfan Ddydd Anableddau Dysgu a Chyfleodd Gwaith Newydd

Published: 17/05/2018

Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir Y Fflint ystyried adroddiad yn ceisio ei gymeradwyaeth i wneud contract gyda Kier Construction i adeiladu Canolfan Ddydd Gwasanaethau Cymdeithasol Anableddau Dysgu a Chyfleodd Gwaith Newydd ar gyn gampws Ysgol Uwchradd John Summers yn Queensferry, yn ei gyfarfod ddydd Mawrth, 22 Mai. Byddai’r datblygiad arfaethedig yn cymryd lle’r ganolfan gwasanaethau dydd bresennol, Glanrafon, yn Queensferry, ac yn cynnig gwasanaeth dydd a chyfleoedd gwaith a ddarperir gan bartner Model Darparu Amgen y Cyngor, Hft, sef elusen genedlaethol sy’n darparu gwasanaethau i unigolion ag anableddau dysgu. Cymeradwywyd achos busnes llawn ar gyfer y cyfleuster newydd ac fe gytunwyd ar gyllid drwy Raglen Gyfalaf y Cyngor ym mis Chwefror 2017. Cymeradwywyd caniatâd cynllunio ar 7 Chwefror 2018. Mae gwasanaeth y Ganolfan Ddydd Anableddau Dysgu a Chyfleodd Gwaith yn darparu gweithgareddau ystyrlon yn ystod y dydd, mewn amgylcheddau canolfan ddydd a gwaith, i dros 150 o unigolion ag anableddau dysgu. Mae hefyd yn cynnig seibiant i ddefnyddwyr gwasanaethau, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Mae’r gwasanaeth yn cefnogi unigolion i ddysgu sgiliau newydd, datblygu annibyniaeth ac i wneud cysylltiadau cymdeithasol a ffrindiau. Bydd y cyfleuster newydd arfaethedig yn darparu technoleg, cysur a hygyrchedd gwell. Bydd darpariaeth hefyd i wasanaethau eraill y Cyngor a’r gymuned ehangach ddefnyddior cyfleusterau, lle bo hynny’n briodol. Meddai’r Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol; “Rwyf yn falch iawn bod Hft eisoes wedi dechrau cynllunio i godi arian ar gyfer y ganolfan newydd, i gynorthwyo â chael offer ar gyfer yr ardaloedd arbenigol, megis gardd synhwyraidd. Mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad Cyngor Sir Y Fflint ac Ymddiriedolaeth HF i adeiladu ar ein perthynas gref a chadarnhaol, a gwneud ein gorau glas i ddarparu cyfleuster o’r radd flaenaf i’n defnyddwyr gwasanaeth, eu teuluoedd a’u gofalwyr a’r gymuned ehangach.”