Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Connah’s Quay High School modernisation

Published: 17/05/2018

Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn ystyried adroddiad yn ei gyfarfod ddydd Mawrth, 22 Mai yn gofyn am ei gefnogaeth i symud ymlaen i ail gam y gwaith moderneiddio syn digwydd yn Ysgol Uwchradd Cei Connah ar hyn o bryd. Bydd cefnogaeth y Cabinet yn galluogi Keir Construction i wneud gwaith dylunio manwl tra bydd Cam 1 y gwaith adeiladu yn mynd yn ei flaen. Dechreuodd Kier Construction ar gam cyntaf y gwaith moderneiddio yn Ysgol Uwchradd Cei Connah yn gynnar yn 2018 ac mae’r prosiect yn symud yn ei flaen yn dda. Maer gwaith presennol yn canolbwyntio ar gael gwared ar y blociau Dylunio a Thechnoleg a Chelf a Thechnoleg Bwyd a chodi adeilad deulawr yn eu lle a fydd yn cynnwys ardal weinyddu, Dylunio a Thechnoleg, Technoleg Bwyd, Celf a Dylunio ac ystafell ar gyfer darpariaeth addysgu, swyddfeydd, toiledau, lifft, grisiau ac ystafell offer. Rhagwelir y bydd gwaith ar y cam hwn wedi’i gwblhau ym mis Rhagfyr 2018 ac mae’n ffurfio rhan o Raglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif y Llywodraeth. Mae’r cynigion ar gyfer Cam 2 yn cynnwys ailfodelu er mwyn darparu ardal weinyddu newydd a dymchwel y bloc gweinyddu presennol; lle parcio ychwanegol, uwchraddior neuadd chwaraeon ar arwyneb allanol (gan gynnwys to newydd ar gyfer y Neuadd Chwaraeon) a phecynnau cytunedig o waith adnewyddu llai. Mae parhau gyda buddsoddiad cyfalaf yn Ysgol Cei Connah yn un o nifer o brosiectau sydd wedi eu cynnwys yn y Rhaglen Amlinellol Strategol a gyflwynodd y Cyngor ar gyfer Band B rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’r Rhaglen Amlinellol Strategol ar gyfer Band B mewn egwyddor ac ystyriwyd papur yn amlinellu’r rhaglen fuddsoddi ar gyfer y dyfodol gan y Cabinet ym mis Ionawr 2018. Yn amodol ar y gymeradwyaeth briodol, bydd y gwaith dylunio’n digwydd o fis Mehefin hyd fis Rhagfyr 2018 gyda Cham 2 y gwaith adeiladu yn digwydd ym mis Ionawr 2019. Meddai Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid: Rydw i’n falch dros ben fod y rhaglen foderneiddio ar gyfer Ysgol Uwchradd Cei Connah yn gwneud cynnydd mor dda gydar cynigion ar gyfer Cam 2 y prosiect yn adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor i ddarparu addysg gynaliadwy o safon uchel ar gyfer ein dysgwyr. Bydd y datblygiadau yn yr ysgol yn trawsnewid y cyfleusterau dysgu sydd ar gael yng Nghei Connah. Meddai’r Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Mae’r bloc dysgu newydd yn cael ei adeiladu i safon uchel a bydd yn darparu cyfleusterau o’r radd flaenaf a’r cyfleoedd dysgu gorau ar gyfer dysgwyr a’r gymuned ehangach ac rwy’n hyderus y bydd cynnydd gwych yn dal i gael ei wneud dros y misoedd i ddod.”