Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Aelodau Bwrdd Theatr Clwyd

Published: 17/05/2018

Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cael cais i gymeradwyo penodiad Bwrdd Newydd Theatr Clwyd pan fydd yn cyfarfod yn ddiweddarach y mis yma. Dros y tair blynedd ddiwethaf mae’r Cyngor wedi cefnogi Theatr Clwyd i wneud newidiadau arwyddocaol a diwygio ei model busnes a chynllunio a gwella ei gweithrediadau gan gynnwys: · Penodi Cyfarwyddwr Artistig a Chyfarwyddwr Gweithredol newydd; · Gweithredu strwythur gweithlu newydd a mwy modern; · Ar y cyd a’r Undebau Llafur, cymeradwyo Cytundeb Ty newydd syn cynnwys telerau ac amodaur gweithlu; · Astudiaeth dichonoldeb ar gyfer adnewyddu’r theatr yn llawn. Yn sgil hyn cyflawnwyd sawl peth arwyddocaol: · Mae’r Cyngor wedi lleihau’r cyllid sylfaen o £350,000 (35%) o £1m, yn dilyn gostyngiad cynharach o 5%. · Mae’r theatr wedi cynyddu nifer y cynyrchiadau drwy dorri a rhannu costau cynhyrchu. · Mae cysylltiadau gyda chymunedau lleol yn agosach gydag amrywiaeth o brosiectau cymunedol a gwaith ieuenctid. · Mae incwm o werthiant tocynnau a gwerthiannau eilaidd wedi cynyddu. · Cafodd safon y cynyrchiadau ei gydnabod drwy ennill pedair gwobr yng Ngwobrau Theatr Cymru. · Bydd yr amrywiaeth o weithgareddau celfyddydol a chreadigol yn cynyddu gydag integreiddiad y Gwasanaeth Datblygu Celf a’r Gwasanaeth Cerddoriaeth. Y cam nesaf yw adnewyddu’r Bwrdd a diweddaru ei gylch gorchwyl. Bydd y Bwrdd newydd yn gyfuniad o saith Cynghorydd Sir a chwe aelod cyfetholedig sydd â’r sgiliau a’r arbenigedd angenrheidiol i fynd â’r theatr ymlaen i gam nesaf ei datblygiad. Mae’r Prif Weithredwr hefyd yn gwasanaethu ar y Bwrdd. Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Aaron Shotton: “Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Theatr Clwyd a bydd aelodau newydd y Bwrdd yn dod a sgiliau penodol gyda nhw a fydd yn galluogir theatr i symud ymlaen a datblygu i fod yn ganolfan gelf fywiol a bywiog wrth galon ein cymuned.” Aelod etholedig arfaethedig y Cyngor yw: · Cynghorydd Derek Butler (Aelod Cabinet Datblygu Economaidd) · Cynghorydd Chris Bithell (Aelod o’r Bwrdd ar hyn o bryd) · Cynghorydd David Evans (Aelod o’r Bwrdd ar hyn o bryd) · Cynghorydd Glyn Banks (Aelod o’r Bwrdd ar hyn o bryd) · Cynghorydd David Mackie (Aelod o’r Bwrdd ar hyn o bryd) · Cynghorydd Kevin Hughes (Aelod newydd o’r Bwrdd) · Cynghorydd Jean Davies (Aelod newydd o’r Bwrdd) Yr aelodaeth gyfetholedig arfaethedig yw: Aelod newydd - Helen Watson, Partner a Phennaeth Cyfraith Cyflogaeth cwmni Aaron and Partners Alan Watkin (Aelod o’r Bwrdd ar hyn o bryd) David Williams (Aelod o’r Bwrdd ar hyn o bryd) Nicolette Cullen (Aelod newydd o’r Bwrdd) – Rheolwr Gyfarwyddwr ei chwmni ei hun – C2K Development Ltd. Rachael Wheatley (Aelod newydd o’r Bwrdd) – perchennog Gunsmoke Communications Tim Manson (Aelod newydd o’r Bwrdd) – 40 o flynyddoedd o brofiad yn y celfyddydau.