Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Busnes NEW Homes

Published: 17/05/2018

Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint roi ei gymeradwyaeth i Gynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru (NEW Homes) 2018/2027 a’r broses gymeradwyo arfaethedig ar gyfer benthyciadau newydd i NEW Homes ar gyfer datblygu neu brynu cartrefi fforddiadwy yn ei gyfarfod ddydd Mawrth, 22 Mai. Mae NEW Homes yn gwmni tai y mae Cyngor Sir y Fflint yn berchen arno, a sefydlwyd ym mis Ebrill 2014 i gynyddu nifer, ansawdd a dewis tai fforddiadwy sydd ar gael yn y sir ar gyfer y rhai hynny nad ydynt efallai’n gymwys am dai cymdeithasol, ond fod mynediad i’r farchnad dai yn anfforddiadwy iddynt neu ei bod yn anodd iddynt gael mynediad iddo. Yn ogystal, mae NEW Homes yn darparu gwasanaeth proffesiynol i landlordiaid fel asiant rheoli fel modd o gynyddu argaeledd tai fforddiadwy o safon. Mae’r Cynllun Busnes yn amlinellu elfennau allweddol cynllun twf arfaethedig y cwmni i gynyddu nifer yr eiddo a reolir ac y maent yn berchen arnynt fel tai fforddiadwy dros y ddeng mlynedd nesaf, mae hyn yn cynnwys cartrefi i’w datblygu drwy’r Rhaglen Dai ac Adfywio Strategol (SHARP), eiddo Adran 106, lle mae datblygwyr tai yn diwallu eu hymrwymiad tai fforddiadwy ac eiddo posibl yn cael eu caffael drwy fenthyca yn erbyn asedau presennol. Mae The Walks, cynllun adeiladu newydd a ddatblygwyd dan SHARP yn cynnwys 62 o dai a fflatiau fforddiadwy, a bydd y cyfan ohonynt yn cael eu trosglwyddo i NEW Homes erbyn diwedd mis Mai 2018. Mae cynigion hefyd yn cael eu datblygu ar gyfer 39 eiddo arall a fydd yn cael eu darparu drwy SHARP. Mae NEW Homes ar hyn o bryd wedi darparu 37 o gartrefi dan Gytundebau Adran 106, ac mae disgwyl i 28 o gartrefi eraill gael eu codi dros y 5 mlynedd nesaf. Er bod nifer y gosodiadau a reolir wedi bod yn tyfu’n gymharol araf, mae NEW Homes wedi llwyddo i gadw mwyafrif y landlordiaid unwaith y byddant wedi ymuno. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint; “Mae NEW Homes wrthi’n cynyddu’r dewis o dai ar gyfer y rhai hynny nad ydynt efallai’n gymwys i gael tai cymdeithasol ond fod y farchnad dai’n anfforddiadwy iddynt neu’n anodd cael mynediad iddi. Rwyf wrth fy modd fod cynllun arloesol SHARP y Cyngor wedi rhyddhau cymaint o gartrefi fforddiadwy ers iddo ddechrau yn 2015. “Mae’r cynllun busnes diwygiedig wedi cael ei gefnogi gan arbenigedd annibynnol ac ym mis Mawrth 2018 cafodd ei gymeradwyo gan NEW Homes fel cynllun twf y gellir ei gyflawni ai gynnal dros y ddeng mlynedd nesaf.” Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Tai: “Mae perthynas waith gadarnhaol iawn wedi datblygu rhwng y Cyngor, NEW Homes a phartneriaid adeiladu. Mae hyn wedi rhyddhau eiddo ar renti fforddiadwy, gan helpu pobl leol i aros yn eu cymunedau lleol eu hunain drwy Gytundebau Adran 106. “Mae hefyd yn bwysig iawn i nodi fod gosodiadau wedi eu rheoli yn cynyddu’r ystod o ddewisiadau o ddarpariaeth tai fforddiadwy. Mae NEW Homes a’r Cyngor yn datblygu dewisiadau ar y cyd o ran sut y gall y gosodiadau wedi eu rheoli hyn weithio’n fwy effeithiol a thyfu.”