Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Yr Hen Gapel, Chester Road, Yr Wyddgrug

Published: 24/05/2018

Byddwn yn cau lôn dros dro o ddydd Mawrth 22 Mai 2018 yn Chester Street, Yr Wyddgrug. Mae angen cau’r lôn dros dro gan fod sgaffaldiau strwythurol wedi’u codi o amgylch adeilad Yr Hen Gapel er mwyn ei wneud yn ddiogel. Gall draffig gael mynediad i ganol tref Yr Wyddgrug gan ddefnyddio Chester Street. Fodd bynnag, nid oes posib gadael canol y dref y ffordd hon ac mae traffig yn cael ei wyro i ffyrdd eraill. Mae cau’r lôn dros dro yn hanfodol er mwyn sicrhau mynediad diogel i gerddwyr tra bo’r sgaffaldiau yn eu lle. Mae’r Cyngor yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra, ond, gan nad oedd unrhyw ffordd arall o godi’r sgaffaldiau, mae diogelwch y cyhoedd yn hanfodol. Bydd y Cyngor yn sicrhau bod unrhyw waith sydd ei angen yn cael ei gyflawni yn effeithlon ac effeithiol ac mor gyflym â phosib.