Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Rhestr Anrhydeddaur Frenhines
Published: 28/07/2014
Llongyfarchodd Dirprwy Gadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ray Hughes
ddau o drigolion Sir y Fflint yn Neuadd y Sir ar ôl iddynt gael eu rhoi ar
Restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.
Rhoddwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) i Mrs. Derryn Blanchard o
Dreffynnon i gydnabod ei gwasanaethau i bobl hyn.
Dyfarnwyd BEM i Mr Gordon Barnabus hefyd am ei wasanaethau i’r gymuned yn
Nhreffynnon.
Meddai’r Cynghorydd Ray Hughes: “Rwy’n hynod falch o longyfarch Mrs Blanchard a
Mr Barnabus sydd wedi cael eu cydnabod o ddifrif am yr holl waith elusennol
gwych y maent yn ei wneud i bobl Sir y Fflint. Mae derbyn Medal yr Ymerodraeth
Brydeinig yn deyrnged haeddiannol i’r ddau ohonynt.”
Llun 1: Derryn Blanchard a’i gwr gyda’r Cynghorydd Ray Hughes, Dirprwy
Gadeirydd Cyngor Sir y Fflint.
Llun 2: Gordon Barnabus gyda’i wraig a’r Cynghorydd Ray Hughes, Dirprwy
Gadeirydd Cyngor Sir y Fflint.