Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint mewn Busnes

Published: 25/05/2018

Cafodd rhaglen fusnes Cyngor Sir Y Fflint, Sir Y Fflint mewn Busnes, ei lansio mewn digwyddiad yn Neuadd Sychdyn yn ddiweddar. Roedd nifer o fusnesau lleol yn bresennol yn y digwyddiad i glywed beth sydd gan Sir Y Fflint mewn Busnes i’w gynnig trwy gydol 2018. Wedii gynnwys mae digwyddiadau cyfryngau cymdeithasol a phresenoldeb ar-lein, cyllid, twf busnes a chyfleoedd i hybu cyfleoedd lleol i ddisgyblion ysgol a choleg. Bydd Gwobrau Poblogaidd Busnes Sir Y Fflint yn cael ei gynnal yn Neuadd Sychdyn ar 19 Hydref. Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Y Fflint, Y Cynghorydd Aaron Shotton: “Unwaith eto, mae Sir Y Fflint mewn Busnes yn cynnig ystod o ddigwyddiadau, wedi’u trefnu gyda’n partneriaid, sy’n cynnwys ystod o bynciau diddorol ac yn cefnogi datblygiad economaidd ein rhanbarth.” Dywedodd Llywydd Sir Y Fflint mewn Busnes, Yr Arglwydd Barry Jones: “Mae hon yn fenter hynod a fydd yn hyrwyddo ein heconomi gwych yma yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ymhellach. Yr hyn sy’n hynod yw bod cysylltiad traws ffiniol pwysig iawn, ac mae’r Sir, gydag aelodaeth Cynghrair Mersi ar Ddyfrdwy a’i ymglymiad ym Margen Twf y rhanbarth, yn dangos cryn ddoethineb. Mae gennym y lleoliad gweithgynhyrchu mwyaf effeithiol ym Mhrydain a’r unig economi traws ffiniol ym Mhrydain - mae ein galluogrwydd gweithgynhyrchu yn rhyfeddol.” Dyweddodd Jonathan Turner, Rheolwr Gyfarwyddwr Systemau Diogelwch AGS: “Gwobrau Busnes Fflint yw uchafbwynt y calendr fusnes. Mae’r dathliad yn rhoi’r cyfle i fusnesau neu fentrau cymdeithasol o bob maint hyrwyddo eu cwmni, ennill cydnabyddiaeth, statws a phroffil uwch, anogaf unrhyw fusnes yn Sir Y Fflint i ymgeisio ar gyfer y gwobrau mawreddog hyn.” Mae cyfanswm o naw gwobr yng Ngwobrau Busnes Sir Y Fflint y gallwch chi ymgeisio amdanynt ac un wobr arbennig - Gwobr Etifeddiaeth Yr Arglwydd Barry, a wobrwyir mewn cydnabyddiaeth o wasanaeth gydol oes rhagorol i fusnes ac economi. Dyma restr o’r categorïau a noddwyr: Prif Noddwr Systemau Diogelwch AGS Gwobr Prentisiaeth Cambria ar gyfer Busnes Gwobr Person Busnes y Flwyddyn Westbridge Furniture Designs Gwobr Busnes y Flwyddyn â thros 10 o weithwyr KK Fine Foods Gwobr Busnes Menter Gymdeithasol Orau (categori gwobr newydd) Evans Maintenance Service Gwobr Busnes y Flwyddyn â hyd at 10 o weithwyr Edge Transport Gwobr Busnes Gorau i Weithio ynddo P & A Group of Companies Gwobr Entrepreneur Pochin Gwobr Busnes Mwyaf Cyfrifol yn Gymdeithasol Wates Residential Gwobr Technoleg, Arloesi a Busnes Kingspan Insulation Panels Gwobr Etifeddiaeth Yr Arglwydd Barry Cyngor Sir Y Fflint Mae manylion llawn y categorïau a’r meini prawf ar gyfer ymgeisio ar wefan Sir Y Fflint mewn Busnes neu drwy gysylltu â Kate Catherall 01352 703221, kate.p.catherall@flintshire.gov.uk Dylai holl ffurflenni ymgeisio ac adnoddau cefnogi eu derbyn erbyn y dyddiad cau 1 Medi 2018.