Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gofyn i’r gymuned helpu i leddfu pwysau parcio ar Barc Gwledig

Published: 08/06/2018

Gyda’r haf ar droed, mae pobl allan yn mwynhau’r awyr agored. Parc Gwledig Wepre yng Nghei Connah yw un o’r cyrchfannau arbennig hynny lle mae pobl yn dod i gerdded ar hyd glan yr afon a thrwy’r coetir, mwynhau’r golygfeydd a’r bywyd gwyllt ac ymweld â Chastell Ewlo, yn enwedig ar ddiwrnodau braf a chynnes. Mae nifer ymwelwyr i’r Parc wedi cynyddu’n sylweddol dros y 5 mlynedd diwethaf, sy’n golygu bod ardaloedd parcio dynodedig a mannau parcio ceir ychwanegol yn aml dan bwysau mawr ar yr adeg hon o’r flwyddyn. Meddai’r Cyng Carolyn Thomas; “Mae Parc Gwledig Wepre yn lle pwysig ir gymuned leol a thu hwnt ac maen nhw wrth eu bodd ag ef, ac maen hyfryd bod cynifer o bobl a grwpiau defnyddwyr yn mwynhau Parc Gwledig Wepre. “Os bydd y meysydd parcio yn llawn, gofynnwn i ymwelwyr ystyried preswylwyr lleol a diogelwch y ffyrdd drwy barcio yn gyfrifol yn hen Safle Maes Parcio Somerfield ar waelod Wepre Drive, tua hanner milltir i ffwrdd, neu ystyried cerdded neu feicio.” “Mae gwaith ymchwil diweddar wedi dangos gwerth mannau gwyrdd i iechyd a lles pobl, rydym am i bobl allu mwynhau’r manteision hyn, ond heb gael effaith negyddol ar eraill. Mae’r Cyngor yn edrych ar opsiynau tymor byr, tymor canolig a thymor hir i reoli pwysau parcio ym Mharc Gwledig Wepre yn y dyfodol, er budd preswylwyr lleol ac ymwelwyr.”