Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diweddariad ar gynnal a chadw tyllau yn y ffyrdd

Published: 07/06/2018

Bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd yng Nghyngor Sir y Fflint yn derbyn diweddariad ar ddulliau o drwsio a chynnal a chadw’r rhwydwaith priffyrdd ar ôl y gaeaf pan fyddant yn cyfarfod ddydd Mawrth 12 Mehefin. Yn ystod y gaeaf diwethaf, roedd pedwar cyfnod arwyddocaol o dywydd garw a gafodd effaith ar y ffyrdd. Mae llenwi tyllaun ffordd effeithiol o ddelio â diffygion yn y rhwydwaith yn syth ac maent yn cael eu llenwi i gael gwared â pherygl yn y ffordd gyflymaf. Mae hyn yn lleihau’r risg o ddifrod neu anafiadau i bobl sy’n gyrru ar y ffordd. Dywedodd Aelod Cabinet Strydoedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Rydyn ni’n archwilio’r rhwydwaith yn rheolaidd ac yn nodi unrhyw ddiffygion. Mae hi’n amlwg yn bwysig cael gwared ag unrhyw ddiffygion o ran diogelwch mor fuan â phosib’ ond mae angen cydbwyso hynny gydar adnoddau sydd ar gael. Llenwi tyllau dros dro ywr ffordd rataf o gael gwared â nhw’n sydyn gan mai’r costau mwyaf yw llafur ac ychydig o ddeunyddiau. “Weithiau, bydd yr atgyweiriadaun methu oherwydd y tywydd ac er ein bod nin deall y gall hyn fod yn rhwystredig i yrwyr, dymar unig opsiwn i gael gwared âr risg yn syth yn y rhan fwyaf o achosion. Ar ben hynny, byddai gwaith trwsio drutach hefyd yn methu yn yr un amodau tywydd. Pan oedd y tywydd yn well, cafodd y darnau o ffordd eu torri au llenwi â tharmac poeth. Mae angen i ddyraniad Sir y Fflint o gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau cynnal a chadw ffyrdd a dyraniad cyfalaf y Cyngor ei hun ddarparu’r manteision gorau. Ers y gaeaf, mae pob ffordd wedi cael ei harchwilio ac wedi cael sgôr am ei chyflwr, sydd wedi helpu wrth baratoi rhaglenni ail-wynebu, sydd wedyn wedi cael eu hasesu’n annibynnol. Eleni, rydym wedi gallu cwblhau ychydig dros 30 o gynlluniau. 9 oedd y nifer y llynedd. Byddant yn dechrau ym Mehefin ac yn para tan tua mis Tachwedd.