Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rheoli Traffig ar Gylchfan A548/Parkway

Published: 07/06/2018

Rheoli Traffig ar Gylchfan A548/Parkway Er mwyn ymateb i geisiadau gan fusnesau, mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn treialu system rheoli traffig dros dro dros y 2 fis diwethaf i helpu i leihau tagfeydd ym Mharth 2 Ystâd Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy. Yn ystod y cyfnod yma, mae llif y traffig a thagfeydd wedi cael eu monitro yn ystod oriau prysuraf y dydd ac mae’r canlyniadau wedi dangos effaith gadarnhaol. Fe fydd y system rheoli traffig a gafodd ei dreialu yn cael ei dynnu ddydd Sul 10 Mehefin ac mae’r Cyngor Sir bellach yn ystyried gosod seilwaith parhaol a allai gynnwys goleuadau traffig ar gylchfan yr A548.