Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Maen amser Jambori Mehefin!

Published: 14/06/2018

Yn ddiweddar, cynhaliodd Tîm Ymgynghorol y Gymraeg Sir y Fflint eu sioe gerdd Jambori tri diwrnod ar gyfer plant Blwyddyn 1 a 2. Roedd tua 1,800 o blant Sir y Fflint yn bresennol yn ystod y tri diwrnod a chomisiynwyd y cyflwynydd S4C a’r diddanwr Martyn Geraint i lwyfannu chwe pherfformiad. Cynhaliwyd y Jambori yn Neuadd Ddinesig Cei Connah, ac fe hoffai’r tîm ddiolch i Gyngor y Dref am eu cefnogaeth barhaus. Dechreuodd y paratoadau yn gynnar ym mis Mai, a bu’r plant yn brysur yn dysgu caneuon er mwyn iddynt allu canu’n Gymraeg gyda Martyn Geraint. Mae Martyn Geraint wedi meithrin enw da fel un o ddiddanwyr mwyaf blaenllaw Cymru gyda gallu naturiol i ysbrydoli plant. Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: Ynghyd â bod yn llawn hwyl, mae Jambori yn cynorthwyo i wella sgiliau dwyieithrwydd y plant ac yn darparu dimensiwn ychwanegol i wersi Cymraeg drwy gynnig profiad dysgu cadarnhaol gan ddefnyddio cerddoriaeth.