Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhannwch eich Cinior Haf Hwn

Published: 13/06/2018

Mae Cyngor Sir y Fflint, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn a Travis Perkins, yn mynd i’r afael â thlodi bwyd. Mae’n ddatganiad ysgytiol i’w wneud, ond mae yna deuluoedd yn Sir y Fflint sy’n byw mewn tlodi bwyd. Tlodi bwyd yw’r anallu i fforddio, neu gael mynediad at fwyd er mwyn creu diet iach. Mae plant yn llwgu gan nad yw eu rhieni’n gallu fforddio prynu bwyd. Er mwyn helpu taclo’r sefyllfa annerbyniol hwn, mae Cyngor Sir y Fflint a’i bartneriaid wedi ymuno â “Can Cook” er mwyn lansio rhaglen uchelgeisiol “Rhannwch eich Cinio” a fydd yn darparu 20,000 o brydau am ddim – 800 pryd y diwrnod – dros gyfnod o chwe wythnos dros wyliau’r haf i gynlluniau chwarae ar draws Sir y Fflint. Mae hwn yn fenter anferth a’r cyntaf yn y rhanbarth. Mae “Rhannwch eich Cinio” wedi darparu dros 35,000 o brydau ffres, am ddim i deuluoedd ac unigolion mewn tlodi bwyd yn ardal Lerpwl. Mae ‘Can Cook’ yn fenter gymdeithasol yn Lerpwl a gafodd ei sefydlu yn 2007 fel sefydliad bwyd sy’n gweithio gydag unigolion yn Ne Lerpwl nad oedd gan unrhyw sgiliau coginio sylfaenol. Maent hefyd yn darparu gwasanaeth arlwyo bwyd ffres ar gyfer lleoliadau gofal ac addysg ar draws Glannau Mersi – ac yn fuan yn Sir y Fflint. Maent yn arbenigo mewn arlwyo ar gyfer plant a phobl hyn, ac yn darparu gwasanaeth penodol i’r grwpiau oedran hyn yn bennaf. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Is-Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Tai; “Mae ‘Rhannwch eich Bwyd’ yn brosiect uchelgeisiol a fydd yn gwneud gwir wahaniaeth i gannoedd o bobl yn ein cymuned. Ni ddylai plant lwgu yn y dydd sydd ohoni. Fodd bynnag, mae menter o’r faint hon yn ddrud iw gyllido, ac er ein bod wedi sicrhau tri chwarter y gyllideb, er mwyn sicrhau y gallwn ddarparur nifer uchaf o brydau, rydym dal i fod angen cymorth gan fusnesau lleol syn barod i helpu. Dywedodd Ed Hughes, rheolwr Gwasanaethau Preswyl ar gyfer Cymdeithas Tai Clwyd Alyn: “Mae Clwyd Alyn yn falch iawn o gefnogi’r fenter bartneriaeth hon. Fel landlord cymdeithasol rydym ni’n ymwybodol o’r heriau mae nifer o deuluoedd yn ei wynebu o ran y broblem ac rydym ni eisiau chwarae ein rhan i helpu cael gwared â thlodi bwyd o fewn Sir y Fflint. Dywedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd: “Mae maetheg dda yn hanfodol i les bob plentyn. Rydym yn cymeradwyo prosiect ‘Rhannwch eich Cinio’ am geisio gwella mynediad i ddiet iach i’r rhai mewn tlodi bwyd yn Sir y Fflint.” Os hoffai eich busnes fod yn rhan a chyfrannu i’r achos, cysylltwch â Leigh Sheridan, Swyddog Marchnata a Datblygiad, Leigh@cancook.co.uk neu 0151 728 3109.