Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun y Cyngor

Published: 18/06/2018

Mae disgwyl i Gynllun y Cyngor ar gyfer y deuddeg mis nesaf gael ei gymeradwyo gan y Cabinet yn ei gyfarfod ddydd Mawrth 19 Mehefin. Maen rhaid i bob awdurdod lleol gyhoeddi Cynllun blynyddol y Cyngor, sy’n cynnwys nodau ac uchelgeisiaur Cyngor ar gyfer 2018/19. Mae’r Cynllun eleni yn parhau gydar fformat newydd a gyflwynwyd y llynedd. Mae’n cynnwys manylion llawn ynglyn â chwe blaenoriaeth ac is-flaenoriaethau’r Cyngor. Maer fformat yn ei gwneud yn haws neidio i gynnwys penodol ar-lein, sydd hefyd yn golygu y gall gwybodaeth gael ei diweddarun hawdd i sicrhau ei bod yn gyfredol. Mae’r chwe blaenoriaeth yn parhau’r un fath: · Cyngor Cefnogol · Cyngor Uchelgeisiol · Cyngor sy’n Dysgu · Cyngor Gwyrdd · Cyngor sy’n Cysylltu · Cyngor syn Gwasanaethu Dan ‘Cyngor Cefnogol’, mae ein blaenoriaethau’n cynnwys darparu cartrefi cymdeithasol a fforddiadwy newydd, parhau gyda’n haddewidion i adeiladu 99 o dai Cyngor a 22 o dai fforddiadwy newydd, cynyddu faint o eiddo syn cael ei reoli gan NEW Homes o 126 i 148 a darparu dewisiadau ar gyfer cynlluniau tai rhent isel arloesol, newydd ar gyfer pobl sengl. Byddwn hefyd yn gweithio gyda landlordiaid a thenantiaid i wella ansawdd tai’r sector preifat. Mae angen i ni wneud hyn er mwyn atal digartrefedd, cynnig dewisiadau tai mwy amrywiol a bodloni targed Llywodraeth Cymru ir holl dai cymdeithasol gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru. Blaenoriaeth arall yw parhau i gefnogi trigolion Sir y Fflint i reoli eu materion ariannol yn well, ac adeiladun benodol ar y gwaith da a wnaed gan swyddogion i leihau risgiau Credyd Cynhwysol a helpu trigolion i reolir newidiadau sylfaenol yma ir ffordd maent yn derbyn eu budd-daliadau. Mae’n bwysig lleihau’r risg o dlodi yng nghartrefi Sir y Fflint a lleihau effaith cynnydd mewn costau tanwydd. Byddwn yn gweithio i sicrhau bod y Ganolfan Cymorth Cynnar, a lansiwyd yn swyddogol y mis hwn gan Gomisiynydd Plant Cymru, yn rhan o waith bob dydd drwy weithio gyda phartneriaid a’r trydydd sector. Cafodd y cysyniad arloesol ei gomisiynu gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint ac mae wedi’i greu i ddarparu cymorth mwy amserol a chydlynol i deuluoedd ag anghenion mwy dwys. Roedd y lansiad yn dathlu cyflawniadau’r ganolfan hyd yma gan rannu straeon cadarnhaol am y ffyrdd rydym wedi cydweithio i gefnogi teuluoedd gyda dau neu fwy o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Byddwn yn sicrhau bod pob gweithiwr yn deall ac yn cyflawni eu cyfrifoldebau i fynd ir afael â diogelu drwy godi ymwybyddiaeth a gweithio gyda phartneriaid i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o ddiogelu. Fel ‘Cyngor Uchelgeisiol’, byddwn yn cyfrannu at ddatblygu’r Fargen Twf Economaidd Ranbarthol ir camau cymeradwyo terfynol gyda Llywodraethau Cymru a Phrydain, gan gynnwys cytuno ar ddyraniadau cyllid a threfniadau llywodraethu ffurfiol. Rydyn ni hefyd eisiau gwarchod a gwella nifer ac ansawdd y prentisiaethau, yn rhanbarthol a lleol, a datblygu ffordd fwy strategol o adfywio a chefnogi canol trefi gyda Chynghorau Tref. Bydd hyn yn helpu i dyfu’r economi leol a rhanbarthol, datblygu cysylltiadau cludiant ar gyfer y rhanbarth a helpu i ategu a thyfu ein sector twristiaeth. Ein huchelgeisiau fel ‘Cyngor sy’n Dysgu’ yw darparu cyfleoedd dysgu effeithiol ac amgylcheddau dysgu o ansawdd ir holl ddisgyblion rhwng 3 a 18 oed i gyflawni eu potensial a chael cyflawniadau addysgol da. Mae hyn yn bwysig i sicrhau bod y sgiliau cywir ganddynt i gael cyfleoedd gwaith modern. Lle mae ysgolion angen cefnogaeth, byddwn yn darparu cymorth effeithiol i gyrraedd safonau addysgol da eto’n sydyn. Gan ein bod wedi ymrwymo i fod yn ‘Gyngor Gwyrdd’, rydyn ni’n ceisio gwella a gwarchod adeiladau a strwythurau drwy lunio Strategaeth Treftadaeth Leol. Mae angen i ni sicrhau cydbwysedd rhwng yr angen am ddatblygu cynaliadwy ac amddiffyn yr amgylchedd naturiol a pharhau i ostwng ein hallyriadau carbon. Byddwn yn defnyddio cyllid o grantiau i ategu ein blaenoriaeth i gyflwyno rhwydwaith cludiant cynaliadwy. Rydyn ni’n blaenoriaethu gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ar ein rhwydwaith cludiant iw wneud yn fwy cadarn, effeithlon a dibynadwy. Yn bwysig iawn, byddwn yn cefnogi cymunedau sydd ar wahân i ddatblygu cynlluniau cludiant cynaliadwy ac arloesol, syn galluogi pobl i ddefnyddio gwasanaethau allweddol ac syn cysylltu cymunedau ar draws Sir y Fflint. Fel ‘Cyngor sy’n Cysylltu, byddwn yn ceisio gwella capasiti’r sector mentrau cymdeithasol a Modelau Cyflawni Amgen iw helpu i fod yn fwy hunangynhaliol, a fyddain eu galluogi i gyfrannu cymaint â phosib a darparu buddion i gymunedau. Byddwn hefyd yn sicrhau nad yw cymuned y lluoedd arfog a’u teuluoedd dan anfantais wrth ddefnyddio Gwasanaethau’r Cyngor. Yn yr oes hon o doriadau economaidd, rhaid i ni allu ymdopi gyda llai a llai o adnoddau ac, fel Cyngor syn Gwasanaethu byddwn yn datblygu ac yn gweithredu cynllun ariannol pum mlynedd wedii adnewyddu, sy’n adlewyrchu’r cyllid, costau ac arbedion effeithlonrwydd disgwyliedig. Byddwn yn parhau i fod yn uchelgeisiol a gweithredu’n effeithiol fel sefydliad llai a chyrraedd y safonau uchaf o ran gwasanaethau i gwsmeriaid. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Mae’r Cynllun yma’n nodi ein prif flaenoriaethau i gefnogi a gwella bywydau’r preswylwyr. Rydyn ni’n parhau hefo rhai o’n blaenoriaethau, er enghraifft, ehangu darpariaeth cartrefi fforddiadwy i breswylwyr sydd mewn angen; gwarchod pobl rhag tlodi; galluogi pobl i fywn annibynnol a bywn dda gartref, gan osgoi achosion diangen o fynd ir ysbyty; gweithio gyda phartneriaid i gynnal twf economaidd a chael mwy o gyfleoedd am waith a datblygu isadeiledd cludiant y sir. “Er gwaethaf y caledi ariannol parhaus, rydyn ni’n dal wedi ymrwymo ac yn dal yn uchelgeisiol fel Cyngor i barhau i ddarparu ar gyfer ein cymunedau lleol. Ychwanegodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau: “Rydyn ni’n bwriadu dal ati gydar gwaith i gefnogi plant a phobl ifanc i gyflawni eu potensial, gwellar amgylchedd naturiol ac annog mynediad at fannau agored a mannau gwyrdd. Yr hyn sy’n bwysig ydi bod Sir y Fflint yn parhau i gyrraedd a rhagori ar ei thargedau ac yn gosod blaenoriaethau i gynnal perfformiad da’r Cyngor bob blwyddyn.” Bydd Cynllun terfynol y Cyngor ar gael ar y wefan cyn diwedd mis Medi.