Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adfywio blaendraeth y Fflint

Published: 15/06/2018

Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint dderbyn yr adroddiad dichonolrwydd ar adfywiad Blaendraeth y Fflint, ac i symud ymlaen â gwaith mwy manwl pan fyddant yn cyfarfod yn hwyrach ymlaen y mis hwn. Gofynnir iddo hefyd dderbyn adroddiad Ymchwil a Datblygiad Celf Castell y Fflint, a datblygu darn mawr o gelf gyhoeddus yng Nghastell y Fflint, neu o’i gwmpas. Mae cam nesaf adfywiad y Fflint wedi’i gyflawni gan Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref y Fflint, gydar ddau yn ffurfio Memorandwm o Ddealltwriaeth gyda Llywodraeth Cymru. Dywedodd y Cyng. Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: “Mae canlyniadau’r ddau adroddiad yn gyffrous ac yn dangos bod y cyfleuster arfaethedig yn gweddu’n dda gydag anghenion pobl leol ac ymwelwyr. Mae pobl leol yn falch o hanes y dref ac maen nhw eisiau rhoi’r Fflint ‘ar y map’ – gallai gosodiad celf helpu i gyflawni hyn. Mae Afon Dyfrdwy’n rhan allweddol o hanes y dref, gyda themâu cryf yn dod i’r amlwg gyda ‘lle i fyw a gweithio’, ‘lle i chwarae a lle i fod yn falch ohono ai werthfawrogi.’ Dywedodd y Cyng. Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint: “Mae’r adroddiad dichonoldeb yn cynnwys gwaith manwl ar gyfleuster ar y cyd, a chanolfan ymwelwyr yn gyfagos i’r castell yn cael ei rannu ai weithredu gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub, Clwb Rygbi’r Fflint a Chlwb Pêl- droed y Fflint. Mae’r adroddiad celf, ar ôl ymchwil ac ymgysylltiad â phreswylwyr lleol ac ysgolion, yn nodi themâu allweddol ar gyfer darn mawr o gelf yng Nghastell y Fflint, neu oi gwmpas. “Rydym yn argymell cynnydd ar y ddau ddarn yma o waith, gan gydnabod mai dim ond un o’r partneriaid yw’r Cyngor, ac y bydd cynnydd yn amodol ar gytundeb y partner arall.” Fel rhan o’r Memorandwm o Ddealltwriaeth, mae Llywodraeth Cymru yn ymroddedig i ddod o hyd i gyllid yn 2018/19 i ariannu’r cam nesaf o’r ddau ddarn o waith.