Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathliadau pen-blwydd Esther yn 102 owed!

Published: 15/06/2018

Mae Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint wedi helpu un o drigolion Sir y Fflint i ddathlu pen-blwydd arbennig iawn. Bu Esther Critchley yn dathlu ei phen-blwydd yn 102 oed yng Nghartref Gofal Preswyl Croes Atti ar 13 Mehefin ac aeth y Cynghorydd Paul Cunningham a’i wraig, Mrs Joan Cunningham i ymweld â hi’r wythnos yma. Cafodd Esther ei geni ar Fferm Pen Ucha Mynydd, Sychdyn ym 1916. Hi oedd merch ganol John a Mary Morrison ac aeth i ysgol Sychdyn cyn cael yr ysgoloriaeth i fynd i Ysgol Ramadeg yr Wyddgrug. Gadawodd Esther yr ysgol yn 14 oed ac aeth i weini i Southport am 3 blynedd. Yna, aeth i Bontblyddyn cyn mynd i Cornist Hall yn y Fflint i weithio i’r teulu Summers. Priododd â Ralph Blackwell ym mis Ebrill 1940 ac aeth i weithio i Dr Ross yn y Fflint, cyn geni ei merch, Maureen, ym 1944. Un uchafbwynt ym mywyd Esther oedd cyfarfod y Frenhines ym 1953 ar ymweliad gwladol ym Mhafiliwn yr Eisteddfod yn y Rhyl. Bu farw ei gwr cyntaf ym 1988 ac fe briododd Donald Critchley ym 1992, cyn hedfan dramor am y tro cyntaf yn ei bywyd ar wyliau. Bu Esther yn byw yn Sychdyn tan 2009 pan symudodd i Gartref Gofal Preswyl Croes Atti yn y Fflint, lle mae wedi bod yn hapus ac wedi derbyn gofal da.