Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Canolfan Sir y Fflint yn agor yng Nghei Connah
Published: 21/07/2014
Agorwyd Canolfan Sir y Fflint yn Cysylltu Cei Connah gan Arweinydd y Cyngor, y
Cynghorydd Aaron Shotton, mewn seremoni ddydd Llun 14 Gorffennaf.
Mynychodd cynghorwyr lleol, arweinwyr cymunedol a gwahoddedigion i weld y
rhuban yn cael ei dorri yn agoriad swyddogol y drydedd ganolfan gwasanaethau
cwsmeriaid.
Mae Sir y Fflint yn Cysylltu, rhaglen cyswllt cwsmeriaid wyneb yn wyneb y
Cyngor, wedi bod yn llwyddiannus iawn yn Nhreffynnon a’r Fflint gan roi
mynediad i drigolion lleol at wybodaeth a gwasanaethau allweddol gan y Cyngor
Sir megis tai,gwasanaethau stryd, budd-daliadau a chyngor am les, bathodynnau
glas, cylluniau teithio rhatach a’r dreth gyngor.
Mae’r ganolfan newydd yn Llyfrgell a Chanolfan Ddysgu Cei Connah ar Wepra
Drive ac mae yno Arddangosfa Dreftadaeth newydd sy’n arddangos gwybodaeth
hanesyddol o’r ardal leol.
Meddai’r Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Mae’r Cyngor
yn ymroddedig i gynnig gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid a thrigolion Cei Connah
a’r cyffiniau fydd y rhai nesaf i elwa o raglen Sir y Fflint yn Cysylltu.
Rwy’n falch iawn o gael agor yr adeilad newydd sy’n cyfuno gwasanaethau’r
Cyngor, y Llyfrgell a’r arddangosfa dreftadaeth dan un to i roi gwasanaethau
cydgysylltiedig a hanes diwylliannol i bobl.
“Mae’r Arddangosfa Dreftadaeth newydd yn rhoi cyfle i bob cenhedlaeth ddysgu am
orffennol diwydiannol balch yr ardal mewn arddangosfa fodern a rhyngweithiol.”
I ddilyn y seremoni ffurfiol cafwyd prynhawn agored o weithgareddau i blant
ysgol lleol a’r cyhoedd i fwynhau’r llyfrgell a’r arddangosfa newydd, lle
casglwyd atgofion lleol drwy sganio dogfennau’r trigolion er mwyn eu harddangos
yn y dyfodol.
Bu’r ymwelwyr hefyd yn defnyddio’r cyfleusterau arferol a ddarperir yn y
ganolfan megis talu biliau’r cyngor, holi am wasanaethau’r cyngor, ymuno â’r
llyfrgell, defnyddio’r cyfrifiaduron am ddim a manteisio ar WiFi am ddim.