Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adleoli capsiwl amser ysgol

Published: 11/07/2018

Cynhaliwyd seremoni yn ddiweddar yn Ysgol Gynradd Arbennig Pen Coch, y Fflint, i nodi adleoli’r capsiwl amser a gladdwyd yn wreiddiol nôl yn 2003 yn hen Ysgol Delyn, Yr Wyddgrug, 30 mlynedd ers i’r ysgol agor. Dewiswyd y lleoliad yma gan fod Ysgol Pen Coch, a grëwyd trwy uno hen ysgolion arbennig Ysgol Belmont, Bwcle, Ysgol Delyn yn Wyddgrug ac Ysgol y Bryn, Shotton, wedi ymroi i ddarparu addysg mewn modd cyfeillgar, creadigol ac arloesol i’w ddisgyblion. Mae Alexandra Court bellach yn meddiannu hen safle Ysgol Delyn, datblygiad a gwblhawyd yn ddiweddar o 16 ty cyngor newydd a adeiladwyd gan Wates Residential yn y Gogledd yn rhan o raglen dai strategol y Cyngor. Roedd disgyblion o gyngor yr ysgol yn bresennol yn y seremoni gan helpu i gladdu’r capsiwl yn ardd synhwyraidd yr ysgol. Bydd lleoliad y capsiwl, a gafodd ei farcio gyda phlac, yn parhau yn y lleoliad am flynyddoedd i ddod, a phan fydd yn cael ei ailagor, fe fydd yn datgelu hanes hen Ysgol Delyn. Dywedodd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cynllunio a’r Amgylchedd sydd ag atgofion hoffus o Ysgol Delyn yn nhref yr Wyddgrug; “Dwi’n cofio’r capsiwl yn cael ei gladdu yn 2003 a pha mor gyffrous oedd y plant bryd hynny, ac rwy’n falch ei fod wedi dod o hyd i gartref newydd mewn lleoliad mor hyfryd yn Ysgol Pen Coch. “Roeddwn i hefyd yn falch o weld bod nifer o staff oedd yn arfer gweithio yn Ysgol Delyn ac sydd bellach yn gweithio yn Ysgol Pen Coch yn gallu ymuno â ni yn y seremoni”. Meddai’r Cynghorydd Paul Cunningham, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint: “Ar ôl agor, fe sefydlodd Ysgol Pen Coch ei hun yn gyflym fel canolfan ragoriaeth i ddysgu anghenion arbennig ac mae Sir y Fflint yn falch iawn ohono, ac mae’n gwbl briodol bod y cyswllt rhwng yr ysgol newydd yma ac un o dair ysgol wych a ddaeth o’i flaen yn cael eu cofio fel hyn. Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Wates Residential yn y Gogledd, Richard Shroll: “Un o bleserau mwyaf ein gwaith ar raglen dai y cyngor ydi dod i adnabod cymaint o’r gymuned leol, ac roedd ein tîm yn falch iawn o helpu i gadw’r capsiwl amser ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol i’w darganfod”. Nodyn i olygyddion Yn y llun gyda disgyblion o gyngor yr ysgol mae (chwith i’r dde); aelodau staff yr ysgol Sharon Williams a Dawn Hopkins, Consort y Cadeirydd Mrs. Joan Cunningham, Cynghorydd Paul Cunningham, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, Cynghorydd Chris Bithell, Cadeirydd y Llywodraethwyr George Tatum a Mick Cunningham o Wates Residential y Gogledd