Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Codi Baner yr RAF yn Neuadd y Sir

Published: 04/07/2018

Roedd Cyngor Sir y Fflint yn falch o groesawu Comodor yr Awyrlu Adrian Williams i Seremoni 100 mlwyddiant yr RAF yn Neuadd y Sir yn ddiweddar a nodwyd yr achlysur drwy godi Baner y Lluoedd Arfog Prydeinig yn Neuadd y Sir. Roedd Cynghorwyr, Cadetiaid Awyr dan Hyfforddiant a chynrychiolwyr busnesau lleol Airbus ac ENI yn ogystal â chyn-filwyr wedi mwynhau cyflwyniad ar hanes yr RAF yng Nghymru gan Gomodor yr Awyrlu. Mae RAF100 yn ymgyrch genedlaethol i nodi 100 mlynedd ers ffurfio’r Llu Awyr cyntaf - a’r mwyaf adnabyddus. Yn adlewyrchu ar ei gofnod balch o wasanaethu’r genedl, mae’r RAF yn coffau’r gwasanaeth ac aberth y rhai sydd wedi mynd; yn diolch i’w filwyr am eu hymroddiad ac am ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf, fel y gallwn barhau i ddatblygu ein byd gyda’n gilydd ar gyfer y 100 mlynedd nesaf a thu hwnt. Dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir Y Fflint, y Cynghorydd Paul Cunningham: “Mae’n fraint ac yn anrhydedd bod yn rhan o’r achlysur hanesyddol hwn ac rwy’n croesawu Comodor yr Awyrlu Adrian Williams, swyddog rheng uchaf yr RAF yng Nghymru yma heddiw: Mae gan Sir y Fflint gysylltiad cryf gyda’r RAF yn mynd yn ôl llawer o flynyddoedd, gan gynnwys RAF Sealand a llawer o drigolion Sir y Fflint sydd wedi gwasanaethu neu sy’n gwasanaethu yn yr RAF. Mae llawer ohonom wedi ein cyffwrdd gan yr RAF mewn rhyw ffordd, felly mae’n bwysig cofio’r rhai sydd wedi colli eu bywydau a hefyd i edrych i’r dyfodol. Felly, ar ran trigolion Sir y Fflint a Chyngor Sir Y Fflint, hoffwn ddiolch i chi, Comodor yr Awyrlu am 100 mlynedd o wasanaeth yr RAF a dymunaf bob llwyddiant i chi am lawer o flynyddoedd i ddod.” Darllenwyd cerdd “No Spotlight over Coastal” gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin, Cefnogwr Y Lluoedd Arfog yn ystod y seremoni, tra dywedodd Comodor yr Awyrlu: “Mae ein canmlwyddiant yn gyfle da i adlewyrchu ar hanes yr RAF yng Nghymru. Mae gennym gysylltiadau cryf rhwng yr RAF a Chymru dros y 100 mlynedd llawn. Mae gennym dair thema - coffau, dathlu ac ysbrydoli. Ni yw’r llu awyr hynaf yn y byd ac rydym yn coffau 100 mlynedd o ragoriaeth, teyrngarwch, dewrder a phroffesiynoldeb, gyda miliwn o bobl yn gwasanaethu yn yr RAF yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn unig, gan ddangos llawer o ddewrder anhygoel ac anhunanoldeb. “Rydym hefyd yn dathlu cyflawniad pobl sy’n gwasanaethu yn yr RAF heddiw, gyda’n milwyr yn gwasanaethu mewn llawer o leoliadau ar draws y byd, gan gynnwys Romania, Estonia a’r Dwyrain Canol. “Ac rydym eisiau ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf drwy fenter a gefnogwyd gan Lywodraethau’r DU a Chymru i gael mwy o bobl ifanc yn astudio ac yn dilyn gyrfaoedd yn y sector gwyddoniaeth a thechnoleg. Drwy ddefnyddio Canmlwyddiant yr RAF, a’n cyfraniad o ddydd i ddydd o fewn gwyddoniaeth a thechnoleg, rydym eisiau cyrraedd dwy filiwn o bobl ifanc 9-15 oed ar draws y DU i helpu i hybu gwerth astudio Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg yn yr ysgol. Os gallwn wneud hyn, byddai’n etifeddiaeth wych o Ganmlwyddiant yr RAF. “Rydym yn cynnal llawer o ddigwyddiadau rhwng Ebrill a Hydref ac roedd yr RAF yn bresennol yn Niwrnod Lluoedd Arfog y DU yn Llandudno ar 30 Mehefin.” Ar ôl symud allan i flaen Neuadd y Sir, parhaodd y Comodor Awyrlu Williams: “Diolch am gynnal heddiw. Mae’n fraint gallu codi Baner yr RAF yn Sir y Fflint unwaith eto, yn y flwyddyn arbennig o ganmlwyddiant yr RAF.” Roedd y Parchedig David Yeo Poulton yn bendithio’r faner cyn ei chodi gan y Swyddog Hedfan Jonathan Davies, gyda chefnogaeth y Swyddog Hedfan Martyn Davies. Am fwy o wybodaeth ar ddigwyddiadau ledled y DU, ewch i https://www.raf.mod.uk/raf100/