Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod Gwenyn ym Mharc Wepre

Published: 04/07/2018

Mae gwenyn yn hanfodol i’n cymuned... Cynhelir y digwyddiad yma ar 15 Gorffennaf ar gyfer nifer o sefydliadau ac unigolion sydd ag angerdd am wenyn ac sydd eisiau rhannu’r cyngor am sut i ofalu amdanynt a’u cadw. Bydd gwenynwyr lleol wrth law gyda’u gwybodaeth a sgiliau i ateb cwestiynau ac i helpu teuluoedd i ddeall pwysigrwydd gwenyn a faint maent dan fygythiad. Bydd cynrychiolwyr o Sw Caer, yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt a Phlas Derw yno hefyd gyda gemau hwyliog i blant. Bydd arddangosfa o waith celf ar gyfer cystadleuaeth celf gwenyn a gynhaliwyd gan Gyfeillion Parc Wepre ar y cyd â’r Gwasanaeth Ceidwaid yn cael ei harddangos hefyd. Dywedodd Aelod Cabinet Strydoedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Dyma’r digwyddiad Gwenyn cyntaf i gael ei gynnal i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwenyn i’n ecosystem a’r gostyngiad gofidus yn eu niferoedd. Bydd yn newid canfyddiadau pobl o’r rhywogaeth, a gobeithio y bydd yn denu cenhedlaeth newydd o wenynwyr yn y dyfodol.”