Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sut all Wythnos Fusnes Sir y Fflint helpuch busnes chi?

Published: 21/07/2014

Mae wythfed Wythnos Fusnes Sir y Fflint yn gwahodd cwmnïau i ddod i arddangos eu nwyddau a’u gwasanaethau yn yr arddangosfa fusnes eleni. Coleg Cambria fydd lleoliad yr arddangosfa yn 2014 a gynhelir ddydd Mercher 8 Hydref ac fe’i noddir gan gwmni Westbridge Furniture Designs. Mae cwmni Westbridge Furniture Designs o Dreffynnon yn cynhyrchu ystod eang o ddodrefn ar gyfer manwerthwyr o safon ledled y DU ac mae’n gefnogwr brwd i Wythnos Fusnes Sir y Fflint. Meddai Prif Weithredwr Westbridge, Stephen Hampton: “Mae Westbridge yn falch o gael noddi Arddangosfa Wythnos Fusnes Sir y Fflint am yr ail flwyddyn yn olynol. Mae’r digwyddiad yn gyfle ardderchog i fusnesau lleol gyfathrebu, cyfarfod ac archwilio cyfleoedd busnes ei gilydd. “Mae Westbridge wedi cyfalafu ar hyn ac wedi dadorchuddio llawer o botensial lleol ar gyfer ein cadwyn gyflenwi nad oeddem yn gwybod eu bod yn bodoli o’r blaen. Mae Wythnos Fusnes Sir y Fflint wedi’i threfnu’n eithriadol o dda ac yn cael ei rhedeg yn broffesiynol iawn. Rydym yn hynod falch o gael y cyfle i gymryd rhan eto.” Bydd dros 70 o stondinau’n arddangos busnesau o bob cwr o’r rhanbarth yn y digwyddiad yng Nghei Connah a dyma’r arddansgofa fusnes fwyaf o’i bath yng ngogledd Cymru. Bydd gweithdai a seminarau yn ymwneud â’r gadwyn gyflenwi a marchnata yn rhedeg ochr yn ochr â’r arddangosfa. Meddai’r Cynghorydd Derek Butler, Aelod o’r Cabinet dros Ddatblygu Economaidd: “Mae’r arddangosfa yn lwyfan gwych i fusnesau lleol hyrwyddo eu hunain. Gall mynychwyr gyfarfod â staff ar y stondinau a sgwrsio am yr hyn sydd gan bob busnes i’w gynnig o ran gwasanaethau neu gynnyrch. “Ceir cyfleoedd gwych i rwydweithio a nod y digwyddiad yw annog cysylltiadau busnes lleol a rhanbarthol a chodi proffil busnesau o safon yn Sir y Fflint i’r gynulleidfa ehangaf bosibl.” I archebu lle arddangos neu i gael gwybodaeth bellach ffoniwch Jen Petrie 01352 703040 neu e-bostiwch jennifer.petrie@flintshire.go.uk