Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gorfodaeth Amgylcheddol yn Sir y Fflint

Published: 12/07/2018

Pan mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cyfarfod nesaf ddydd Mawrth, 17 Gorffennaf, byddant yn cael y dewis i gefnogi argymhelliad Pwyllgor Trosolwg a Chraffu bod y trefniant treialu cyfredol gyda Kingdom ar gyfer darpariaeth gorfodi amgylcheddol lefel isel yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2018. Bydd gofyn i aelodau’r Cabinet gytuno hefyd pe byddant yn adolygu model darpariaeth gynaliadwy ar gyfer y gwasanaeth cyn diwedd y trefniant presennol mewn adroddiad pellach a gaiff ei dderbyn ym mis Medi. Mae sbwriel yn broblem i bob tref a chymuned yn y wlad ac roedd gwaith i gasglu sbwriel ar strydoedd a mannau agored yn Sir y Fflint cyn Ionawr 2016 yn costio mwy na £300,000 y flwyddyn. Ar ben y gost a’r effaith weledol mae sbwriel yn ei chael ar yr amgylchedd, mae mwy a mwy o dystiolaeth yn awgrymu ei fod yn cael effaith sylweddol ar yr economi leol ai fod yn cynyddu mathau eraill o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Dywedodd Aelod Cabinet Strydoedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Er y talwyd nifer helaeth o rybuddion cosb benodedig heb wrthwynebiad, mae sawl achos proffil uchel yn ddiweddar lle mae amgylchiadau tu ôl i ddyrannu’r tocyn wedi bod yn ddadleuol. Mae nifer fechan yr achosion hyn yn tanseilio enw dar cwmni a’r Awdurdod, ac mae’r trefniant yn ymddangos yn llawdrwm’ i sawl un. Mae nifer o Gynghorau Tref hefyd wedi gofyn bod Kingdom ddim yn cael eu cyflogi ar weithgareddau gorfodi yn eu hardaloedd eu hunain. Argymhellir bod y trefniant presennol gyda Kingdom ddim yn cael ei ymestyn a bod y Cyngor yn cynnig adolygiad o’r dewisiadau sydd ar gael unwaith eto ar gyfer modelau darpariaeth gwasanaeth cynaliadwy. Bydd hyn yn cynnwys contract ffurfiol a model darpariaeth ranbarthol neu isranbarthol gyda’r potensial am sefydliad o’r math ‘Teckal’ a fyddai’n darparu’r un gwasanaeth ar ran y Cyngor neu ardal ehangach. Yn ystod y cyfnod rhybudd interim, bydd adolygiad o orfodi heb oddefgarwch hefyd.