Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad deddfwriaeth ddigartrefedd

Published: 17/07/2018

Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn derbyn diweddariad ar reolaeth deddfwriaeth newydd o fewn Deddf Tai (Cymru) 2014 pan fydd yn cyfarfod nes ymlaen yn y mis hwn. Gofynnir i’r Cabinet hefyd gefnogi’r themâu sy’n codi yn y Strategaeth Ddigartrefedd Rhanbarthol ac i nodi’r heriau y mae’r Cyngor wedi eu hwynebu wrth ddod o hyd i opsiynau tai addas i aelwydydd. Byddant hefyd yn adolygu’r cynlluniau i leihau peryglon pellach a bydd gofyn iddynt hefyd gymeradwyor cynlluniau i leihau digartrefedd yn y Sir. Cyflwynodd Deddf Tai (Cymru) 2014 ddeddfwriaeth ddigartrefedd newydd yn Ebrill 2015. Mae Cynghorau Gogledd Cymru yn datblygu Strategaeth Ranbarthol â chynlluniau gweithredu lleol ym mhob sir. Mae’r strategaeth yn datblygun dda a chaiff ei chyflwyno ir Cabinet ei chymeradwyo’n derfynol ddiwedd y flwyddyn. Mae’r themâu yn cynnwys: Pobl (digartrefedd ieuenctid, pobl syn cysgu ar y stryd, anghenion cymhleth a phobl syn gadael carchar); Cartrefi (Tai yn Gyntaf, mynediad gwell at letyau - cyflenwad, llety dros dro); a Gwasanaethau (atal, lliniaru diwygiadau lles, iechyd). Nododd Adolygiad Digartrefedd Sir y Fflint nad yw argaeledd llety fforddiadwy ac addas ar draws y sectorau tai yn ddigonol er mwyn cwrdd â’r galw presennol. Cyflwynodd y ddeddfwriaeth ganolbwynt clir ar atal problemau yn hytrach na dim ond helpu pobl sydd mewn argyfwng ac, os caiff ei gweithredun effeithiol, y nod yw lleihau nifer yr aelwydydd syn profi trawma digartrefedd. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet ar gyfer Tai Cyngor Sir y Fflint: “Mae swyddogion y Cyngor wedi ymrwymo i weithio’n galed i sicrhau newid, ac i wella bywydau rhai o’r preswylwyr sydd dan y mwyaf o fygythiad mewn cyfnodau anodd.’ Mae nawdd yn parhau i ostwng ac mae nawdd grant yn mynd yn anos cael mynediad ato, ond dengys yr adroddiad hwn bod Sir y Fflint yn gwneud popeth yn eu gallu yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni i fynd i’r afael â’r broblem gymdeithasol hon.” Yn 2017/18, mi wnaeth 3,495 o aelwydydd droi at y Cyngor am gymorth tai sy’n dangos cynnydd o 3.9% ers y flwyddyn flaenorol. Roedd 1,715 o’r aelwydydd hynny wedi eu hasesu yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref - gostyngiad o 39% ers y flwyddyn ariannol flaenorol. Y canolbwynt yw atal digartrefedd a galluogi aelwyd i aros yn eu cartref pan fo hynny’n bosibl. I gyflawni hyn, mae’r gwasanaeth angen cyflenwad o opsiynau tai sy’n fforddiadwy, ond mae diffyg opsiynau ar gael ac ar hyn bydd y gweithredu yn canolbwyntio. Mae cyflenwad prin o opsiynau addas ar gael. Maer niferoedd ar y gofrestr tai cymdeithasol yn cynyddu ac mae’r amseroedd aros ar gyfer eiddo gwag yn dod yn hirach, yn enwedig ar gyfer ymgeiswyr sengl. Mae prinder lletyau ar gyfer pobl sengl yn her enfawr wrth geisio lleihau digartrefedd. Gwaethygwyd hyn gan y diwygiadau lles amrywiol sydd wedi eu cyflwyno ers 2013. Mae’r sector rhentu preifat yn parhau i fod yn opsiwn tai ar gyfer nifer o bobl ac o safbwynt y Cyngor mae’n darparu opsiwn pellach i unigolion sydd mewn angen brys am dai. Mae Gogledd Ddwyrain Cymru (GDdC) yn cynnig cyflenwad pellach o opsiynau sector preifat i aelwydydd. Fodd bynnag, mae heriau cynyddol wrth ddod o hyd i eiddo addas a fforddiadwy yn y sector rhentu preifat. Caiff llety fforddiadwy ar gyfer aelwydydd sengl eu cynnwys mewn cynnig ir Gronfa Tai Arloesedd. Bydd y Cyngor yn gwneud cais am nawdd i gefnogi prosiect âr agwedd tai yn gyntaf ac yn darparu tai o ansawdd uchel syn gysylltiedig â chynlluniau gwaith a chyflogaeth i bobl sengl. Yn Sir y Fflint, mae’r Cyngor wedi ymrwymo i atal cysgu ar y stryd ac ar hyn o bryd yn mynd y tu hwnt i’r ddyletswydd statudol ac yn darparu llety interim i unrhyw un nad oes ganddynt le i aros beth bynnag yw eu statws angen blaenoriaethol. Mae’r Cyngor hefyd wedi ymrwymo i leihau’r defnydd o lety Gwely a Brecwast (B&B) fel blaenoriaeth. Mae gweithredu’r newid yn cymryd amser, ac er i’r defnydd o wely a brecwast gynyddu yn 2017/18, mae’r Cyngor wedi dechrau gweld niferoedd yn gostwng ac yn wythnos gyntaf Mehefin 2018 nid oedd unrhyw deulu mewn llety gwely a brecwast a darparwyd llety i 11 o aelwydydd sengl.