Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gostyngiad yn nhreth y Cyngor i bobl syn gadael gofal

Published: 12/07/2018

Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn derbyn cais i gymeradwyo cyflwyno gostyngiad yn ôl disgresiwn ar Dreth y Cyngor i bobl cymwys syn gadael gofal pan fydd yn cyfarfod ar yr 17 Gorffennaf. Mae Plant Dan Ofal a phobl sy’n gadael gofal ymysg y grwpiau sydd dan y mwyaf o fygythiad o fewn cymdeithas. Maer adroddiad Breuddwydion Cudd, a gynhyrchwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru ym mis Mawrth 2017, yn amlygu’r anawsterau y mae pobl sy’n gadael gofal yn eu wynebu wrth geisio rheoli eu harian a thalu biliau (yn cynnwys talu Treth y Cyngor) wedi iddynt adael gofal. Mae’n gyfrifoldeb ar y Cyngor i ddarparu’r dyfodol gorau posibl i bobl sy’n gadael gofal wrth iddynt drawsnewid o fod dan ofalaeth yr awdurdod lleol i fywn annibynnol. Ar hyn o bryd mae 74 o bobl syn gadael gofal yn Sir y Fflint, 31 rhwng 16 ac 18 oed a 44 rhwng 19 a 25 oed. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint: “Rydym eisiau cyflwyno polisi ariannol newydd i bobl sy’n gadael gofal, a chytundeb i ddarparu gostyngiad o hyd at 100% o daliad Treth y Cyngor i bobl sy’n gadael gofal rhwng 18 a 25 oed sy’n byw yn Sir y Fflint. Mae rheoli cyllid yn gallu bod yn hynod o heriol i lawer o bobl, ond hyd yn oed yn fwy i bobl sy’n gadael gofal wrth iddynt droin oedolion ac addasu i fyw yn annibynnol ar ben eu hunain neu gydag eraill. Hoffwn iddo ddod i rym o 1 Ebrill eleni oherwydd byddai rhoi’r gostyngiad yma iddyn nhw yn gymorth enfawr iddynt. Mae’r cynllun ar gael i holl bobl cymwys sy’n gadael gofal ac yn byw yn Sir y Fflint, beth bynnag yw eu hawdurdod darparu gofal. “Byddwn hefyd yn darparu gwybodaeth syml er mwyn sicrhau eu bod yn gwybod pa gefnogaeth ariannol y maent yn gymwys ar eu cyfer gan y Cyngor.” Mae Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru yn annog yr awdurdodau lleol i dderbyn y cynllun gostyngiad i bobl sy’n gadael gofal. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLLLC) hefyd yn cefnogi’r cynllun gostyngiad.