Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Published: 13/07/2018

Y gweinidog yn ymweld â’r ardal adfywio Ymwelodd Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Tai ac Adfywio â’r Fflint yn ddiweddar er mwyn cael gweld drosti’i hun y gwaith adfywio sydd wedi bod yn mynd ymlaen yn y dref. Cyfarfu ag aelodau a swyddogion Cyngor Sir y Fflint yn ogystal â chynrychiolwyr o Gymdeithas Tai Clwyd Alyn yn swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu cyn iddi fynd draw i weld y cynllun gofal ychwanegol newydd, Llys Raddington. Llys Raddington yw’r trydydd cyfleuster o’i fath i gael ei adeiladu yn Sir y Fflint, sy’n darparu 73 o randai un a dwy ystafell wely hunangynhwysol ynghyd ag amrediad eang o gyfleusterau cyffredin, a chaiff ei reoli gan Gymdeithas Tai Clwyd Alyn mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint. Y contractwr adeiladu ar gyfer y prosiect hwn yw Anwyl Construction. Cafodd y Gweinidog hefyd y cyfle i ymweld â’r Walks yn y Fflint, y safle cyntaf i gael ei ail-ddatblygu fel rhan o Raglen Tai ac Adfywio Strategol Cyngor Sir y Fflint (RhTAS) lle mae cyfuniad o 92 o gartrefi cyngor newydd a fforddiadwy wedi eu hadeiladu gan bartner y rhaglen, Wates Residential North - y cyntaf i gael eu hadeiladu yng Nghymru ers cenhedlaeth. Meddai Rebecca Evans: “Rydym wedi ymrwymo i adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod y Tymor Cynulliad hwn, ac mae’n wych gweld sut mae Cyngor Sir y Fflint yn chwarae eu rhan yn hyn. “Mae cartrefi o ansawdd uchel mewn datblygiadau fel y Walks yn greiddiol i gymuned lwyddiannus, maent yn helpu unigolion a theuluoedd i ffynnu.” Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: Rwyf wrth fy modd bod y Gweinidog wedi gallu ymweld â’r Walks yn y Fflint. Rydym yn hynod falch o’r gwaith yr ydym wedi ei gychwyn a fydd yn parhau mewn sawl ardal arall o’r Sir ac yn cynyddu nifer yr eiddo newydd i bron 300 hyd yn hyn. Mae’r galw am dai fforddiadwy a chymdeithasol yn parhau i gynyddu, felly mae’n rhaid i ni gynnal momentwm ein cynlluniau uchelgeisiol er mwyn ateb y galw. “Mae’r safleoedd newydd hyn yng nghalon ein cymunedau a byddant yn darparu mwy o dai o ansawdd uchel, gan helpu i gynnal y cymunedau hynny a chreu cyfleoedd cyflogaeth. Meddai Clare Budden, Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn: “Roedd yn wych croesawu’r Gweinidog i weld y cynllun gofal ychwanegol newydd, Llys Raddington ac rwyf yn falch ei bod wedi neilltuo amser yn gynharach yn y dydd i alw heibio Caffi’r Hen Lys a’r Ganolfan Dreftadaeth yn y Fflint, cyfarfu â Thîm Cynnwys ODEL i ddysgu mwy am y gwasanaeth cyngor a chymorth hollbwysig y maent yn ei ddarparu yn y Sir. Cyfarfu’r Gweinidog â Chynghorwyr a swyddogion y Cyngor i drafod materion tai yn y Sir gan gynnwys y Strategaeth Datblygu Tai NEWYDD, sy’n cynyddu’r pwysau ar y gwasanaeth digartrefedd a ffyrdd i atal cysgu ar y stryd.