Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Fforwm Mynediad Lleol Sir y Fflint a Wrecsam

Published: 13/07/2018

Hoffech chi gael eich llais iw glywed yn y drafodaeth ynglyn â dyfodol mynediad cyhoeddus yng nghefn gwlad? Rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno a Fforwm Mynediad Lleol newydd Sir y Fflint a Wrecsam. Rydym eisiau clywed gan unrhyw un sydd â phrofiad mewn rheoli cefn gwlad, er enghraifft ffermwyr neu bobl syn defnyddio cefn gwlad yn rheolaidd, er enghraifft cerddwyr, marchogion, beicwyr neu yrwyr oddi ar y ffordd. Pwrpas y Fforwm yw cynghori Cyngor Bwrdeistref Wrecsam a Chyngor Sir y Fflint ynglyn â gwella mynediad ar gyfer pwrpas hamdden awyr agored a mwynhad yr ardal. Mae hyn yn cynnwys gwelliannau i hawliau tramwy cyhoeddus a hawl mynediad i dir agored a thir comin. Mae’r Fforwm yn cyfarfod 4 neu 5 gwaith y flwyddyn, fel arfer yn ystod y dydd. Mae hwn yn Fforwm Mynediad Lleol sydd yn gweithio ar draws ardal Siroedd Fflint a Bwrdeistref Wrecsam. Mae’n bwysig fod aelodau yn medru mynychu bob cyfarfod. Ni does tâl ar gyfer gwaith aelodau’r Fforwm, ond gellir hawlio costau teithio rhesymol. Dylai unrhyw berson a hoffai gael ei ystyried fel aelod dderbyn manylion pellach drwy e-bostio Martin Howarth, Rheolwr Hawliau Tramwy Cyngor Sir Wrecsam martin.howarth@wrexham.gov.uk neu Tom Woodall, Rheolwr Mynediad ac Amgylchedd Naturiol, Cyngor Sir y Fflint, tom.woodall@flintshire.gov.uk.