Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathlu Ysgolion Iach

Published: 13/07/2018

Cynhaliwyd digwyddiad Dathlu Cyrhaeddiad blynyddol Ysgolion Iach Sir y Fflint yn ddiweddar yn Ysgol Gwynedd, Y Fflint, Trefnir y digwyddiad ysbrydoledig hwn sy’n codi’r ysbryd gan y Tîm Ysgolion Iach, sy’n rhan o Bortffolio Addysg ac Ieuenctid y Cyngor. Am y drydedd flynedd yn olynol, dathlwyd y digwyddiad ar y cyd gyda Cymdeithas Gemau Ysgolion Cynradd Sir y Fflint ac yn cydnabod cyraeddiadau ysgolion ym mhob agwedd ar addysg iechyd a chwaraeon. Daeth disgyblion o ysgolion o bob cwr o’r sir yno i dderbyn eu gwobrau gan Gadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Paul Cunningham, a’i gymar, Mrs Joan Cunningham a Prif Swyddog dros dro dros Addysg ac Ieuenctid, Claire Homard. Croesawodd Kate Fox-Parry, Cadeirydd Cymdeithas Gemau Ysgolion Cynradd Sir y Fflint a Phennaeth Ysgol Cae’r Nant, bawb i’r digwyddiad, a oedd yn cynnwys perfformiad caboledig gan Gôr Ysgol Gwynedd a thîm dawns creadigol, a chyflwyniad gan Ysgol Gwenffrwd ar yr hyn mae’n golygu i fod yn “Ysgol Iach”, a pherfformiad codi hwyl gan ddisgyblion Ysgol Bryn Gwalia. Cyflwynodd y Cynghorydd Cunningham y Wobr Chwaraeon Tîm y Sir, gan ddweud: “Mae heddiw’n amlygu’r gwaith ardderchog sy’n digwydd yn ein hysgolion ar draws y Sir. Mae ystod eang o chwaraeon yn cynnwys rownderi, pêl-droed, athletau, criced a phêl-rwyd. Mae digwyddiadau fel hyn yn dangos ymrwymiad parhaus i’r Cynllun Ysgolion Iach – da iawn i bawb ynghlwm.” Yna, cyflwynodd Claire Homard wobrau Ysgolion Iach 15 cam 4 a 5 a dilynwyd hynny gan wobr fwyaf y bore: y Wobr Ansawdd Genedlaethol ar gyfer Ysgolion Iach. Cyflawnodd tair ysgol, Ysgol Gwenffrwd, Ysgol Uwchradd Elfed ac Ysgol Derwenfa, yr achrediad a chafodd pum ysgol arall eu hail-achredu’n llwyddiannus ar gyfer 2017/18 – Ysgol Gwynedd, Ysgol Gynradd Southdown, Ysgol Cae’r Nant, Ysgol Bryn Coch ac Ysgol Gynradd Mountain Lane. Wrth gyflwyno’r gwobrau, dywedodd Claire Homard: “Y Wobr Ansawdd Genedlaethol yw anrhydedd uchaf y cynllun ac mae’n rhaid i ysgolion gwblhau pum cam cyn iddynt fod yn gymwys ar gyfer y wobr - gall hyn gymryd cyfartaledd o 10 mlynedd i’w gyflawni! Mae’r Wobr Ansawdd Genedlaethol yn golygu datblygu ymagwedd ysgol gyfan tuag at faterion sy’n effeithio ar iechyd a lles; maent yn cynnwys saith gwahanol thema iechyd, o Iechyd Emosiynol, Bwyd a Ffitrwydd i Ddatblygiad Personol a Diogelwch. “Llongyfarchiadau enfawr i bob ysgol ar gyflawniad o’r fath! Ynghyd â’r gwobrau Ysgolion Iach, roedd cyflwyniadau arbennig ar gyfer Abbey Mayers o Ysgol Mountain Lane, Maisy Parry o Ysgol Ty Ffynnon a Rose Duggan o Ysgol Gynradd Drury, y tair yn ennill y Chwaraewyr Benywaidd Mwyaf Addawol 2018, ac Oliver Blayney o Ysgol Gynradd Southdown yn ennill y wobr Chwaraewr Gwrywaidd Mwyaf Addawol. Gwobrwywyd y Wobr Cyfraniad Arbennig i Chwaraeon yn Sir y Fflint eleni i Mrs Kate Fox Parry am ei chyfraniad ac ymrwymiad i chwaraeon Sir y Fflint fel Cadeirydd ffederasiwn gemau ysgolion cynradd. Mae Mrs Fox Parry yn ymddeol yr haf hwn fel pennaeth Ysgol Cae’r Nant. Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet dros Addysg Sir y Fflint: “Mae hwn yn ddathliad arbennig iawn. Mae’n bwysig ein bod yn cydnabod cyraeddiadau chwaraeon plant a phobl ifanc ac yn dathlu athletwyr talentog ein sir.” “Mae’r Cynllun Ysgolion Iach wedi bod yn rhedeg ers 15 mlynedd yn Sir y Fflint, ac mae’n mynd o nerth i nerth. Mae’n hyfryd gweld y plant yn cymryd rhan mor frwdfrydig ar bob agwedd ar y cynllun ysbrydoledig hwn.”