Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Sir y Fflint - Mae Parciau Cefn Gwlad yn ennill Gwobr Baner Werdd i Gwobr flaenllaw y Faner Werdd

Published: 16/07/2018

Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi datgelu enillwyr Gwobr y Faner – marc ansawdd rhyngwladol parc neu fan gwyrdd o ansawdd – ar gyfer eleni. Mae 201 o barciau a mannau gwyrdd, y nifer uchaf erioed, yn cynnwys prifysgolion, mynwentydd, coetiroedd a rhandir ar draws Cymru, wedi bodloni’r safonau uchel sydd eu hangen i dderbyn Gwobr flaenllaw y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd. Bydd y baneri yn chwifio yn Hyffryn Maes Glas a Pharc Gwepra i gydnabod eu cyfleusterau rhagorol a’r ymrwymiad i gyflwyno mannau gwyrdd o ansawdd gwych. Mae Dyffryn Maes Glas a Pharc Gwepra yn llawn hanes a bywyd gwyllt. Maen nhw’n leoedd gwerthfawr iawn yn ein cymuned leol ac mae’n fraint derbyn y Wobr hon ar gyfer 2018/19. Mae Parc Gwepra yn 160 erw o fan gwyrdd, yng nghanol Cei Connah, Sir y Fflint, ac mae’n lleoliad unigryw gyda’i amrywiaeth o gynefinoedd a daeareg. Mae nodweddion y parc yn cynnwys; Gerddi’r Hen Neuadd, Pwll Pysgota, Ffrwd a Rhaeadr, a Chastell Ewlo i’r cyhoedd eu darganfod. Mae Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas yn Nhreffynnon, Sir y Fflint, ac mae’n cynnwys 70 erw o hanes diwydiannol. Yn hanesyddol, roedd Dyffryn Maes Glas yn cyflogi cannoedd o bobl yn ei ffatrïoedd copr a melinau cotwm ac mae’n fan gwyrdd agored hyfryd nawr. Mae’r Dyffryn yn gartref i nifer o henebion rhestredig ac mae’n noddfa i fywyd gwyllt. Mae Parc Gwepra a Dyffryn Maes Glas yn Barciau o safon y mae Sir y Fflint yn falch ohonynt, ac maen nhw’n hygyrch i’r gymuned eu harchwilio a’u mwynhau. Dywedodd Gwladys Harrison, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas; “Mae’r staff a’r Bwrdd Ymddiriedolwyr yn falch iawn o Ddyffryn Maes Glas, un o drysorau Sir y Fflint, ac mae’n anrhydedd ein bod wedi cyflawni’r wobr hon am flwyddyn arall. Mae’n Wobr werthfawr iawn ac mae’n adlewyrchu ansawdd ein mannau gwyrdd lleol. Hoffem annog y gymuned i gyd yr haf hwn i fynd allan i’r awyr agored a mwynhau ein mannau naturiol. “ Dywedodd y Cyng. Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad; “Mae’n anrhydedd i ni ennill gwobr y Faner Werdd ar gyfer Dyffryn Maes Glas a Pharc Gwepra. Mae parciau Sir y Fflint o ansawdd ardderchog ac maen nhw’n rhan werthfawr o’n cymuned. Hoffwn ddiolch i’r holl wirfoddolwyr a staff sy’n gweithio’n galed i gynnal y safonau uchel hyn a chaniatáu i ni chwifio’r ‘Faner Werdd’. Mae amrywiaeth o fywyd gwyllt a nodweddion hanesyddol y parciau hyn o ddiddordeb mawr i breswylwyr a thwristiaeth ac maen nhw’n glod i Sir y Fflint. Byddwn i’n annog pawb i fynd allan i’r awyr agored yr haf hwn, darganfod ein treftadaeth leol ac archwilio ein mannau gwyrdd naturiol.” Cyflwynir rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru’n Daclus, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Caiff ei beirniadu gan arbenigwyr mannau gwyrdd, sydd yn gwirfoddoli eu hamser i ymweld â safleoedd sy’n ymgeisio a’u hasesu yn erbyn wyth maen prawf llym, yn cynnwys safonau garddwriaethol, glendid, rheolaeth amgylcheddol a chyfranogiad cymunedol. Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru’n Daclus: “Rydym wrth ein bodd yn dathlu blwyddyn lwyddiannus arall i Wobrau’r Faner Werdd yng Nghymru. Mae’r 201 o faneri sydd yn chwifio yn dyst i ymroddiad a brwdfrydedd y staff a’r gwirfoddolwyr ar draws y wlad sydd yn gweithio’n ddiflino i gynnal safonau Gwobr y Faner Werdd. “Byddwn yn annog pawb i fynd allan i’r awyr agored yr haf hwn i fwynhau’r parciau a’r mannau gwyrdd anhygoel sydd gennym ar drothwy’r drws.” Mae rhestr lawn o enillwyr y wobr ar gael ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru/greenflag Gallwch roi eich parc neu fan gwyrdd ar y map drwy gymryd rhan hefyd. Ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru am fwy o wybodaeth. Nodiadau i Olgddion 1. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: countryside@flintshire.gov.uk 01352703900 or info@greenfieldvalley.com 01352 714172 2. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd ar 029 20726964 / 07469 118876 neu anfonwch e-bost at lucy.prisk@keepwalestidy.cymru 3. Am gymorth cyfathrebu cysylltwch ag Amy Lloyd ar 029 20726985 / 07875 662803 neu anfonwch e-bost at amy.lloyd@keepwalestidy.cymru 4. Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn elusen amgylcheddol gofrestredig sydd yn ceisio gwella amgylcheddau lleol Cymru. Ewch i’n gwefan am fwy o wybodaeth: www.keepwalestidy.cymru 5. Mae Gwobr y Faner Werdd yn rhoi cydnabyddiaeth i barciau sydd wedi dangos safonau uchel Gwobr y Faner Werdd. Rhoddir pwyslais hefyd ar gyfranogiad cymunedol lleol o ran gofal hirdymor y parc sydd wedi cael ei wobrwyo. 6. Mae partneriaeth ar draws y DU sy’n cael ei arwain gan Gadwch Gymru’n Daclus wedi cael y drwydded i gynnal cynllun Gwobr y Faner Werdd hyd at fis Medi 2017. Bydd Cadwch Brydain yn Daclus yn rheoli’r cynllun cyffredinol o dan drwydded gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (CLG) a bydd yn parhau i reoli gweithrediadau o ddydd i ddydd yn Lloegr, gyda chyflawniad y gwledydd eraill yn cael ei oruchwylio gan ei chwaer-elusennau Cadwch Gymru’n Daclus, Keep Northern Ireland Beautiful a Keep Scotland Beautiful. 7. Am fwy o wybodaeth am Wobr y Faner Werdd yng Nghymru ewch i www.keepwalestidy.cymru/greenflag 8. I wneud cais, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru/greenflag neu cysylltwch â Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd ar 029 20726964 / 07469 118876 neu anfonwch e-bost at lucy.prisk@keepwalestidy.cymru