Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gweithwyr Sir y Fflint yn cael hyfforddiant hunanamddiffyn

Published: 30/07/2018

2018-CE-0027-JS.jpgMae busnes lleol sy’n aelod o Glwb Menter Shotton a gynhelir gan Cymunedau am waith a Mwy wedi rhyfeddu gyda’r gefnogaeth maent wedi ei dderbyn, ac felly’n rhoi yn ôl.

Cynhaliodd Academi Cobra Life Family Martial Arts Black Belt seminar amddiffyn stryd sylfaenol am ddim yn ddiweddar ar gyfer gweithwyr Cymunedau am Waith a Mwy a Gofal a Thrwsio yn ogystal ag aelodau o’r Clwb Menter.

Roedd y sesiwn ddwy awr yn canolbwyntio ar wybodaeth sylfaenol o hunanymwybyddiaeth a thechnegau amddiffyn yn erbyn ymosodiadau cyffredinol, awgrymiadau a thriciau ar ffyrdd o beidio â chael eich targedu, a sut i osgoi gwrthdaro a sut i liniaru sefyllfaoedd ymosodol ac, os yw popeth arall yn methu, gwybod beth i’w wneud os cewch eich targedu.

Mae gan Gavin Easthan dros 30 mlynedd o brofiad mewn crefft ymladd ac wedi bod yn addysgu am dros 10 mlynedd.  Dywedodd:

 “Nid yw ein hethos ni ar y cicio a phwnsio traddodiadol, ond yn hytrach ar helpu pobl i ddatblygu eu sgiliau byw a rhoi'r gallu i deuluoedd hyfforddi a datblygu gyda'i gilydd.  Rydym yn cynnal rhaglen sy'n canolbwyntio’n llwyr o amgylch y teulu, gan roi cyfleoedd i deuluoedd cyfan allu hyfforddi gyda'i gilydd mewn amgylchedd diogel a chroesawgar.  Mae ein rhaglenni yn cynnwys bwlio, peryglon dieithriaid a rheoli sefyllfa argyfyngus.

 “Mae’r Clwb Menter wedi fy nghefnogi gyda chyngor ar gyrsiau sy'n elwa'r busnes ac wedi fy narparu gyda chyfleoedd rhwydweithio er mwyn fy helpu i ddatblygu.  Mae'r sesiynau bob amser yn gyfeillgar, yn llawn gwybodaeth ac yn llawn egni, cydweithrediad, ysbrydoliaeth a syniadau ac anogaf unrhyw un sy’n chwilio am gymorth ychwanegol i gysylltu.”

2018-CE-0028-JS.jpgDywedodd Paula Vaughan Williams, sydd hefyd yn aelod o’r Clwb Menter ac ar fin lansio ei busnes newydd ‘Pure Vegetable Well-being’, ac a fynychodd y sesiwn:

 “Roedd hwn yn brofiad gwych.  Roeddwn ychydig yn nerfus am gofrestru, ond fe ddysgais gymaint yn y sesiwn.  Roedd yr ymwybyddiaeth ac opsiynau ar gyfer paratoi eich hunain wrth feddwl bod rhywun am ymosod arnoch yn ddefnyddiol iawn.  Roedd yn wych, a buaswn yn awgrymu i unrhyw un gymryd rhan.”

Mae dau Glwb Menter yn Sir y Fflint - un sy’n cael ei redeg yng Nghanolfan “Place for You”, Rowleys Drive, Shotton, ac un yng Nghanolfan Fusnes Maes Glas.  Bydd cyfarfodydd clwb menter am ddim ar gyfer busnesau newydd sy’n dechrau, trwy gydol misoedd yr haf yn Shotton a gweithdai newydd yn dechrau ym mis Medi ym Maes Glas.  Os hoffech gofrestru ar gyfer un o’r clybiau neu os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â Beverly Moseley ar beverly.moseley@flintshire.gov.uk neu 01352 704430.