Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llyffantod y twyni yn ymdeithio
Published: 25/07/2014
Mae poblogaeth gynyddol Sir y Fflint o lyffantod cefnfelyn yn symud y mis hwn
wrth i safle newydd ar foryd Dyfrdwy roir cartref diweddaraf yng Nghymru ir
creadur anarferol hwn.
Bydd y prosiect cadwraeth newydd a chyffrous hwn sy’n ychwanegu at y llwyddiant
a gafwyd wrth gyflwynor twyni tywod ar y ffin rhwng Sir Ddinbych a Sir y
Fflint yn trosglwyddo penbyliaid y Llyffant Cefnfelyn i safle Hen Fwynglawdd
Llys Bedydd ym Magillt.
Fe’i lleolir wrth Wasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint mewn partneriaeth ag
Ymddiriedolaeth Gadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid, Cyfoeth Naturiol Cymru a
Phaneli Inswleiddio Kingspan. Caiff y trawsleoliad ei gydlynu gan geidwaid parc
i greu llwyth bach ond pwysig yng Ngogledd Cymru, a fydd yn rhoi Bagillt ar y
map cadwraeth.
“Mae cyrraedd y pwynt hwn wedi cymryd tipyn o amser, meddai’r uwch geidwad
arfordirol Mike Taylor. “Roeddem yn rhan o lwyth Gronant a Thalacre syn eiddo
i ENI o tua 1997, a’r profiad hwnnw sydd wedi ein galluogi i ddatblygu safle
Bagillt.”
Galluogodd diogelu safle Llys Bedydd fel rhan o brosiect Llwybr Arfordir Cymru
i rywfaint o waith paratoi gael ei gynnal, gyda ffens a thywod yn cael eu
hychwanegu i domen wastraff glo ddiffaith. Eleni, cafwyd gwaith ar ddraeniau
a chrëwyd dau bwll bridio newydd ar ardal a oedd wedii difrodin flaenorol gan
weithgarwch anghyfreithlon oddi ar y ffordd.
“Mae cymorth gan Baneli Ynysu Kingspan wedi galluogi i bwll ychwanegol a gwaith
pellach ar gynefinoedd gael ei wneud na fyddwn wedi eu cwblhau fel arall”
meddai Mike.
Dywedodd y Cynghorydd ar gyfer Gorllewin Bagillt, Mike Reece: “Ymhen tair
blynedd, dylai hen safle Llys Bedydd weld llawer o Lyffantod Cefnfelyn llawn
dwf. Ychwanegwch hyn at Lwybr Arfordir Cymru, y golygfeydd gorau o foryd
Dyfrdwy ar Goelcerth Ddraig orau o bell ffordd yng Nghymru a bydd gennym ran
eithaf arbennig o forlin syn werth ei gweld ac y gallwn fod yn falch iawn
ohoni. Mae’r beiciau modur a’r beiciau oddi ar y ffordd a oedd yn difetha ein
cymuned bellach wedi mynd ac mae bywyd gwyllt a thawelwch wedi dod yn eu lle.
Dywedodd Mark Harris o Kingspan: “Rydym yn falch iawn o gael y cyfle i gyfrannu
at y prosiect cadwraeth hynod fuddiol hwn – mae cefnogi ein cymuned leol a
gwella ein hamgylchedd yn rhan allweddol on gweledigaeth strategol i sefydlu
uned fusnes gynaliadwy or radd flaenaf yn ein pencadlys adrannol yng Ngogledd
Cymru
Llun L-R: Emma Green o Baneli Ynysu Kingspan, ar ceidwaid arfordirol Mike
Taylor, Mandy Cartwright ac Alistair Hemphill.