Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwyddiant digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr

Published: 02/08/2018

Roedd diddordeb busnesau lleol Sir y Fflint yn y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol y Cyngor (SHARP), yn amlwg mewn digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr diweddar. 

Mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir y Fflint, croesawodd y datblygwyr, Wates Residential North, fusnesau lleol i’w swyddfeydd yn yr Wyddgrug i ddarganfod ffyrdd iddynt fod yn rhan o weithio ar y cyngor newydd ac adeiladu tai fforddiadwy ar draws y sir. 

Mynychodd dros 20 o wahanol fusnesau lleol, gyda nifer yn cael eu hystyried ar gyfer cytundebau ar y gwahanol safleoedd.  Mae Wates Residential North yn awyddus i gyflogi busnesau a phobl leol er mwyn hybu’r economi lleol a darparu sgiliau a phrofiad i’r gweithlu lleol.

Estynnwyd gwahoddiad i bob maes o’r diwydiant adeiladu gan gynnwys gwaith daear, gosodwyr brics, towyr, gweithwyr plymio a thrydanol, plastrwyr, seiri, paentwyr, tirlunwyr a ffenswyr. Mynychodd tîm Datblygu Busnes y digwyddiad hefyd, a gynhaliwyd mewn partneriaeth â Sir y Fflint mewn Busnes.

Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge:

“Mae nifer o fusnesau lleol wedi elwa o weithio gyda ni eisoes, o ganlyniad i’r bartneriaeth lwyddiannus rhwng y Cyngor a Wates. Mae cam nesaf ein rhaglen SHARP yn rhoi cyfleoedd i fusnesau lleol eraill gymryd mantais o’r cyfle hwn, waeth pa mor fawr ydyn nhw.

“Rydym yn awyddus i barhau i greu cyfleoedd cyflogaeth trwy ddefnyddio busnesau lleol. Byddwn yn annog busnesau bach yn y diwydiant adeiladu i fynychu’r digwyddiad hwn i gael rhagor o wybodaeth ac i weld sut y gallant gyfranogi."

2018-CE-0029-JS.jpg