Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwobr Arian yng Nghynllun Cydnabod Cyflogwr y Weinyddiaeth Amddiffyn

Published: 08/08/2018

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi derbyn Gwobr Arian yng Nghynllun Cydnabod Cyflogwr y Weinyddiaeth Amddiffyn. Fe lansiwyd y cynllun yn 2014.

I gyflawni’r Wobr Arian, mae’n rhaid i gyflogwyr ddangos nad yw Cymuned y Lluoedd Arfog wynebu anfantais yn y gweithle.  Mae Cymuned y Lluoedd Arfog yn cynnwys aelodau wrth gefn, cyn-filwyr a’u teuluoedd.

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Dunbobbin, Cefnogwr y Lluoedd Arfog Cyngor Sir y Fflint “Rydym yn falch o fod wedi cyflawni Gwobr Arian yn gydnabyddiaeth o ymrwymiad y Cyngor i gefnogi cyn-filwyr, aelodau wrth gefn a chymuned y Lluoedd Arfog. Rydym yn cydnabod gwerth cefnogi gweithwyr o gefndir milwrol. Mae’r profiad, gwybodaeth a sgiliau y mae milwyr ac aelodau wrth gefn yn ei gael yn y fyddin ac yn ei roi i’r Cyngor yn aruthrol. Byddwn yn parhau i weithio tuag at y Wobr Aur ac yn anrhydeddu ein hymrwymiadau yng Nghyfamod y Lluoedd Arfog, gan sicrhau nad yw cymunedau y Lluoedd Arfog dan anfantais”.

Mae’r Cyfamod yn ymrwymiad gan y wlad na ddylai aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog wynebu unrhyw anfantais o'i gymharu â dinasyddion eraill wrth ddarparu gwasanaethau ac y dylid rhoi ystyriaeth arbennig mewn rhai achosion, yn enwedig i'r rhai sydd wedi rhoi’r mwyaf.