Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae 12fed Diwrnod Mawr Y Ddyfrdwy yn agosáu

Published: 14/08/2018

Mae Diwrnod Mawr Y Ddyfrdwy eleni yn cael ei lansio ddydd Gwener, 14 Medi ac mae Sir Y Fflint unwaith eto yn falch iawn i fod yn rhan o un o ddigwyddiadau cymunedol a chadwraeth mwyaf yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a Gogledd-Orllewin Lloegr.

Mae’r digwyddiad gyda Sir y Fflint, Swydd Gaer a Chyfoeth Naturiol Cymru yn fudd-ddeiliaid allweddol wedi estyn allan yn ystod y blynyddoedd diwethaf i gynnwys Swydd Amwythig, Wrecsam a Sir Ddinbych yn gweithio i lanhau’r Afon Ddyfrdwy a’r dalgylch yn flynyddol sy’n cynnwys milltiroedd o arfordir o Dalacre i Gaer a Llangollen i Ogledd Swydd Amwythig.

Mae’r digwyddiad blynyddol hwn, a gefnogir gan lawer o grwpiau cymunedol a nifer o fusnesau gan gynnwys Tesco, Airbus, Kingspan, ENI a llawer mwy yn gweld cannoedd o bobl yn cymryd rhan yn gweithio'n galed i lanhau amgylchedd afon gan gasglu llond cannoedd o fagiau o sbwriel yn ogystal â thacluso’r mannau arbennig ar hyd glannau’r Afon Dyfrdwy, yr arfordir a’r dalgylch. Yn Sir y Fflint, mae’r ymdrechion yn cael eu cydlynu gan Geidwaid Cefn Gwlad y Cyngor, sy’n cymryd y cyfle i weithio gyda busnesau lleol, grwpiau cadwraeth a chymunedol, i blannu coed a bylbiau,  paentio meinciau a chlirio tunelli o sbwriel yng nghymunedau arfordir ac arfordirol Sir y Fflint hefyd. Mae hefyd wedi cychwyn adfywiad arfordirol gan weithio'n agos gyda llwybr Arfordir Cymru.

Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

“Mae yna wir ymdeimlad o falchder cymunedol yn Niwrnod Mawr Y Ddyfrdwy ac mae’r digwyddiad wedi tyfu bob blwyddyn ers ei sefydlu gyntaf gan Wasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor yn 2007.

“Mae'r gwirfoddolwyr cymunedol a busnes yn chwarae rhan enfawr wrth helpu i sicrhau bod ein harfordir yn cael ei gadw'n lân i ymwelwyr a bywyd gwyllt gyda miloedd o fagiau o sbwriel yn cael eu casglu gan gannoedd o wirfoddolwyr yn ystod yr 11 mlynedd ddiwethaf. Rwy’n siwr y bydd digwyddiad eleni yn adeiladu ar ymdrechion gwych y blynyddoedd blaenorol pan ddaeth cymaint o bobl ynghyd i helpu i ddiogelu a gofalu am ein hamgylchedd lleol.   Gwerthfawrogir ymdrechion pawb.”

Er bod sawl digwyddiad wedi’u cynllunio’n barod, mae amser o hyd i gynnwys eich grwp, busnes neu sefydliadau yn Niwrnod Mawr y Ddyfrdwy eleni. Cysylltwch â’r Ceidwaid yn y Ganolfan Ymwelwyr ym Mharc Gwepra yng Nghei Connah ar 01352 703900 am ragor o wybodaeth.