Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Clwb Athletau Glannau Dyfrdwy yn chwilio am wirfoddolwyr

Published: 23/07/2014

Mae Clwb Athletau Glannau Dyfrdwy yn cynnal ymgyrch recriwtio mewn ymgais i gynyddu nifer y gwirfoddolwyr syn cefnogir clwb llwyddiannus. Bydd y noson agored yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Athletau Dan Do Gogledd Cymru, Ffordd Celstryn, Cei Conna ddydd Llun 28 Gorffennaf o 7pm tan 9pm. Clwb Athletau Glannau Dyfrdwy ydi’r unig glwb athletau yn Sir y Fflint ac maen nhw’n darparu ar gyfer athletwyr iau, hyn ac anabl. Nod y clwb ydi rhoi cyfle i bobl ifanc ac oedolion gael cymryd rhan a mwynhau athletau mewn amgylchedd hwyliog a diogel dan arweiniad hyfforddwyr cymwys. Ar hyn o bryd mae gan y clwb 132 o aelodau, yn aelodau ifanc 9 mlwydd oed ac yn aelodau 65 oed a hyn. Dywedodd Donna Welsh, Swyddog Datblygu Athletau sydd ynghlwm wrth Glwb Athletau Glannau Dyfrdwy: “Gwirfoddolwyr ydi asgwrn cefn ein clwb a hebddyn nhw ni fyddai’r clwb yn bodoli. “Bydd y Noson Agored yn gyfle gwych i bobl leol sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli i ddod i weld y cyfleusterau, i gwrdd âr hyfforddwyr a’r athletwyr ac i wybod mwy am yr hyn rydym ni’n ei wneud yng Nghlwb Athletau Glannau Dyfrdwy. Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Strategaeth Gwastraff, Gwarchod y Cyhoedd a Hamdden: “Mae gwirfoddolwyr yn bwysig iawn i sefydliadau lleol a grwpiau chwaraeon. Maen nhw’n galluogi pobl i gymryd rhan a gwella eu sgiliau chwaraeon, sgiliau na fyddai fel arall yn datblygu efallai. Felly, os oes gennych chi rywfaint o amser sbâr, dyma ffordd wych o helpu’ch cymuned. Maer clwb yn awyddus i recriwtio nifer o rolau gwahanol, gan gynnwys rolau hyfforddi ymarferol a rolau cefnogi i helpu’r clwb godi arian, marchnata a hyrwyddo, diweddaru’r wefan/cyfryngau cymdeithasol a llawer mwy. Am fwy o wybodaeth ewch i’r Ganolfan Athletau Dan Do a dysgwch fwy am y cyfleoedd gwych i gymryd rhan.