Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Newidiadau i wasanaethau bws Arriva

Published: 24/08/2018

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cael gwybod bod Arriva yn bwriadu gwneud newidiadau i'w gwasanaethau bws 3, 4, 4S, X4 a 12 o 2 Medi 2018 ymlaen.

4 / 4S / X4 - Caer - Brychdyn – Penarlâg – Bwcle – Yr Wyddgrug – Mae addasiadau i’r amserlen.

12 ac 13 – Caer / Brychdyn / Bwcle / Cei Connah / Yr Wyddgrug – Mae hwn yn wasanaeth diwygiedig sy’n cysylltu gwasanaethau presennol 3 (wedi’i ailenwi yn 13) a 12.

Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach ar wefan Arriva https://www.arrivabus.co.uk/wales/updates/exciting-changes-to-services-in-chester/

I gadarnhau, penderfyniad masnachol gan Arriva yw hyn ac nid canlyniad yr ymgynghoriad adolygiad rhwydwaith bws diweddar.

Dosbarthir amserlenni hyrwyddol i'r lleoliadau arferol (Canolfannau Cysylltu, llyfrgelloedd, gwefan) ar gyfer cylchrediad cyhoeddus a chaiff bob gorsaf bws eu diweddaru.