Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwyddiant Prosiect Cartrefi Gofal Sir y Fflint mewn Gwobrau Cenedlaethol

Published: 17/09/2018

Social care award.jpgMae prosiect dan arweiniad Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint wedi ennill un wobr genedlaethol flaenllaw ac wedi cyrraedd rownd derfynol cynllun gwobrwyo arall.

Datblygwyd ‘Creu Lle i’w Alw’n Gartref….Darparu’r hyn sy’n Bwysig’ gan Dîm Comisiynu Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint mewn partneriaeth â rheolwyr cartrefi gofal.  Nod y prosiect yw gwella ansawdd bywyd pobl hyn sy’n byw yng Nghartrefi Gofal Sir y Fflint drwy gefnogi staff gofal i weithio mewn ffordd wahanol.

Ers Ebrill 2015, mae’r Tîm Comisiynu wedi gweithio gydag arweinwyr cartrefi gofal i ymwreiddio gwaith papur ac arferion gwaith newydd, gan helpu staff i gefnogi pobl hyn i wneud yr hyn sydd fwyaf pwysig iddyn nhw yn eu bywydau o ddydd i ddydd.

Yn ddiweddar daeth y prosiect i’r brig yng Ngwobrau Gofal Cymdeithasol Cymru a chyrhaeddodd rownd derfynol Gwobrau’r Gymdeithas Rhagoriaeth Mewn Gwasanaethau Cyhoeddus (APSE).  

Mae Gwobrau Gofal Cymdeithasol Cymru yn cydnabod rhagoriaeth mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru a dyfarnwyd y Wobr yn benodol am ddeilliannau rhagorol ar gyfer  bobl o bob oed drwy fuddsoddi yn nysgu a datblygu staff.  Mae Gwobrau Gwasanaethau APSE yn dathlu cyrhaeddiad neilltuol ac arloesedd yn narpariaeth gwasanaethau llywodraeth leol y DU.

Mae’r prosiect, a gyflwynodd gynllun gwobrau efydd, arian ac aur yng Nghartrefi Gofal Sir y Fflint, wedi gweld gwelliannau mesuradwy yn llesiant pobl hyn yn y cartrefi gofal hyn. Mae’r prosiect hefyd yn cyfrannu at ddatblygiad staff a’r gallu i ddal gafael ar staff yn y sector gofal lleol. 

Meddai’r Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros y Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Mae hyn yn newyddion cyffrous dros ben! Mae’n gyrhaeddiad aruthrol cyrraedd rowndiau terfynol y ddau gynllun gwobrwyo, heb sôn am ennill! Mae hi bob amser yn braf gweld gwaith caled ac ymroddiad ein swyddogion a’n partneriaid yn cael eu cydnabod ar lefel genedlaethol. Llongyfarchiadau i’r holl bobl hynny sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect arloesol hwn sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl hyn.”

Meddai Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint, Neil Ayling:

“Mae pedwar ar ddeg o gartrefi gofal hyd yn hyn wedi ennill gwobr efydd mewn ymarfer unigolyn-ganolog, ac mae eraill yn gweithio tuag at hyn. Yr hydref hwn bydd y Tîm Comisiynu yn dechrau gweithio gyda’r arweinwyr hynny sydd eisiau datblygu tuag at ennill gwobrau efydd ac aur.  Mae’r tîm wrth eu bodd y bydd y rhaglen yn cael ei ymestyn cyn bo hir i rannau eraill o’r sector gofal, gan gynnwys pobl hyn sy’n cael cefnogaeth i fyw yn eu cartrefi eu hunain.”