Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Digwyddiad Iechyd a Lles Blynyddol Sir y Fflint

Published: 17/09/2018

Chwilio am Gefnogaeth? Angen cyngor am beth sydd ar gael yn lleol i helpu gyda chyflwr iechyd sydd gennych chi?

Dewch draw i ddigwyddiad Iechyd a Lles Sir y Fflint yn Neuadd Ddinesig Cei Connah i weld beth sydd i’w gynnig yn yr ardal.

Bydd Cymunedau am Waith a Mwy Sir y Fflint a’r Ganolfan Byd Gwaith yn dod â darparwyr gofal iechyd lleol sy’n cynnig amrywiaeth helaeth o wasanaethau ynghyd yn Neuadd Ddinesig Cei Connah o 10am tan 1pm ddydd Mercher 26 Medi 2018. 

Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint: 

“Mi ddechreuodd y digwyddiad bedair blynedd yn ôl ac mae wedi rhoi cymorth i lawer o bobl leol. “Yn 2017, daeth 400 o bobl i’r digwyddiad.  Mae wedi cael ei ddatblygu i helpu pobl yn Sir y Fflint sy'n byw â chyflwr iechyd, neu sy'n gofalu am rywun â chyflwr iechyd, ac mae'n dod â'r darparwyr at y bobl, gan roi cyfle am sgwrs wyneb yn wyneb.

“Y llynedd bu mwy na 33 o ddarparwyr gofal iechyd yn cymryd rhan, ac yn rhoi cyngor a chefnogaeth i fwy na 400 o bobl leol."

Bydd yno ddigonedd o gyngor ymarferol ar gael. Ymhlith y materion iechyd o dan sylw fydd gofal iechyd meddwl, epilepsi, diabetes, nam ar y golwg a’r clyw, mudiadau gofalwyr, anableddau dysgu, cymorth i gyn-filwyr ac yn y blaen. Bydd cyfleoedd hefyd i drafod gwirfoddoli gyda mudiadau lleol.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Kim yn y Ganolfan Byd Gwaith ar 07717 867211 neu Nia o Gymunedau am Waith a Mwy ar 01352 704430.