Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cydnabyddiaeth ar gyfer Canolfan Cymorth Buan 

Published: 18/09/2018

flintshire-early-help-hub.jpgRoedd Cyngor Sir Y Fflint yn falch o dderbyn cydnabyddiaeth i’r Ganolfan Cymorth Buan yn y Gwobrau Partneriaethau (POP) yn ddiweddar.

Mae’r Gwobrau yn dathlu mentrau ar draws Gogledd Cymru sydd wedi arddangos gwaith partneriaeth rhagweithiol i ddatblygu atebion i gyflyrau sylfaenol sy’n cyfrannu at broblemau diogelwch y cyhoedd.  

Daeth Canolfan Cymorth Buan Sir y Fflint yn ail yn y Gwobrau yn ddiweddar.    Mae’r fenter arloesol hon yn darparu cefnogaeth mwy amserol a chydlynol i deuluoedd â mwy o anghenion.    Mae’n canolbwyntio’n helaeth ar sefydliadau’n cydweithio i gyrraedd plant a theuluoedd a fyddai’n elwa o gymorth buan.  Y sefydliadau partner yw Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Sir y Fflint, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyngor Gwirfoddol Lleol Sir Y Fflint.

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:

“Rwy’n falch bod y Ganolfan Cymorth Buan wedi’i chydnabod fel hyn.   Mae hwn wir yn ddull sydd ar flaen y gad o ran cydweithio gyda phartneriaid amlasiantaeth i gefnogi rhai o'n teuluoedd mwyaf bregus.

“Y prif nod yw bod sefydliadau'n cydweithio i sicrhau bod plant, pobl ifanc a theuluoedd yn gallu cael gwybodaeth a chyngor am gymorth cynnar perthnasol.  Bydd y Ganolfan Cymorth Cynnar yn cefnogi pobl i ddatblygu eu sgiliau ymdopi a mynd i’r afael â phroblemau cyn iddynt waethygu.”