Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Sir y Fflint yn croesawu 25 o brentisiaid newydd

Published: 18/09/2018

Apprentices 26.jpgCyfarfu Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett, a recriwtiaid newydd ar ddiwrnod cyflwyno yn Academi Dysgu a Datblygu'r Cyngor yng Ngholeg Cambria, Llaneurgain.

Caiff nifer o brentisiaid eu recriwtio bob blwyddyn i ddatblygu sgiliau proffesiynol i ddechrau yn eu gyrfaoedd mewn amrediad helaeth o feysydd gan gynnwys busnes, cyfrifyddiaeth, TGCh, cefn gwlad, adeiladu, gan gynnwys gwaith plastro, paentio ac addurno a phlymio, yn ogystal ag fel gweithwyr strydwedd, marchnata, cwsmeriaid digidol ac archwilio mewnol.

Mae cohort eleni yn cynnwys prentis a fydd wedi ei leoli yn Theatr Clwyd, yn cefnogi'r bwyty a digwyddiadau tra’n dysgu coginio’n broffesiynol.

Mae’r prentisiaid fel arfer yn mynd i’r coleg un diwrnod yr wythnos i ennill cymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant ac yn ennill profiad gwerthfawr o weithio i’r cyngor ac ennill cyflog.   

Mae Dysgu a Datblygu hefyd wedi cyflogi graddedigion mewn archwilio a marchnata a fydd yn gallu parhau â’u cymwysterau wrth weithio ym maes y proffesiwn o’u dewis.

Mae prentisiaid hefyd yn gwirfoddoli ac yn cymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol fel rhan o’r fframwaith Brentisiaid sy’n gwella eu profiad dysgu.

Dywedodd Colin Everett, y Prif Weithredwr:

 “Mae bob amser yn bleser cael croesawu ein prentisiaid ac rwy’n dymuno pob llwyddiant iddynt wrth iddynt ddechrau ar eu taith i gyflogaeth.  Mae nifer o’n prentisiaid wedi mynd yn eu blaenau i fwynhau gyrfaoedd llwyddiannus yn y crefftau a’r proffesiynau y maent wedi eu dewis. Mae’r ffaith fod 96% o’r rhai sydd ar ein cynllun yn sicrhau cyflogaeth neu leoedd mewn addysg uwch ar ddiwedd eu prentisiaeth yn deyrnged i’r rhaglen a’n partneriaeth gyda Choleg Cambria.”