Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Gwella Hawliau Tramwy  2018-2028

Published: 25/09/2018

Yn ei gyfarfod ar 25 Medi gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint ystyried y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy drafft ynghyd â llyfryn Polisi a Gweithdrefnau, a chytuno i ryddhau’r Cynllun a’r Llyfryn am gyfnod ymgynghori cyhoeddus statudol o dri mis.

 

Mae'n rhaid i’r holl Awdurdodau Priffyrdd Lleol gynhyrchu Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (CGHT) a fydd mewn grym am 10 mlynedd. Mae'r ail CGHT hwn yn gwerthuso cynllun 2008-18, yn asesu rhwydwaith 2018 ac yn nodi camau gweithredu ar gyfer oes y Cynllun newydd.

Dywedwyd mai nodau Cynllun 2008-18 yw “.......sicrhau gwelliannau i reolaeth, cynnal a chadw, diogelu a chofnodi’r rhwydwaith (hawliau tramwy cyhoeddus), er mwyn sicrhau y daw’n fwy agored a hygyrch i’r cyhoedd.”

Cafwyd adborth cadarnhaol gan ddefnyddwyr yn gyffredinol, ac mae yna rai agweddau ar y rhwydwaith hawliau tramwy lleol sy’n diwallu’r galw presennol, er enghraifft:

·         darparu mynediad i nifer o wahanol rannau o'r Sir ar gyfer cerdded

·         llwybrau troed gan mwyaf mewn cyflwr da ac yn hawdd eu defnyddio

·         gwelliannau amlwg dros y blynyddoedd diwethaf

·         llwybrau wedi’u harwyddo’n dda o’r ffyrdd

Fodd bynnag, mae meysydd lle gellid gwneud gwelliannau, er enghraifft:

 

  • nid yw marcwyr llwybrau yn cael eu gosod mor gyson ag y byddai rhai defnyddwyr yn ei hoffi
  • nid oes digon o lwybrau ceffylau i alluogi marchogaeth oddi ar y ffordd
  • nid yw pawb sy’n defnyddio cadair olwyn yn gallu cael mynediad i Lwybr Arfordir Cymru ac maent yn profi rhai problemau gyda’r arwynebau ar ffyrdd lleol.
  • mae perchnogion tir wedi profi rhai problemau o ganlyniad i ymddygiad amhriodol ar ran defnyddwyr y llwybrau a'u cwn.
  • nid oes digon o wybodaeth am y Rhwydwaith Hawliau Tramwy o safbwynt yr hyn sy’n bodoli a hawliau a chyfrifoldebau pobl.

Mae’r canlynol wedi’u hadnabod fel rhai o’r camau gweithredu allweddol i’w symud ymlaen yn yr ail Gynllun hwn:

 

  • Gwella hygyrchedd y rhwydwaith
  • Gwneud gwell defnydd o’r rhwydwaith (cerdded i wella iechyd, teithio llesol ayyb).
  • Hyrwyddo a rhoi gwell gwybodaeth am y rhwydwaith

Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

“Rwy’n croesawu’r cynllun drafft hwn ac yn annog pobl i gyflwyno eu sylwadau fel y gallwn ddarparu rhwydwaith hawliau tramwy modern ar gyfer cymunedau Sir y Fflint.  O ganlyniad i gasgliadau cynnar y cynllun Cyntaf, rydym eisoes wedi datblygu llyfryn Polisi a Gweithdrefnau fel blaenoriaeth, fel bod dealltwriaeth eang o, a thryloywder ynglyn â’r hyn y mae Cyngor Sir y Fflint yn ei wneud, a sut."