Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Wythnos ‘Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy’ Lwyddiannus

Published: 26/09/2018

Wrth i ‘Ddiwrnod Mawr y Ddyfrdwy’ ddod i ben, mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint yn falch o lwyddiant blwyddyn arall.  Mae 30 o sefydliadau ledled Sir y Fflint wedi bod allan yn gweithio yn brysur i wneud gwahaniaeth i'r Afon Dyfrdwy, y foryd a’r isafonydd.  

Cynhaliwyd dau ymarfer codi sbwriel yn Nhalacre yn ystod yr wythnos gydag ENI, Cadwch Gymru'n Daclus a gwirfoddolwyr yn cydlynu ‘Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy’ a ‘The Great British Clean’ y Gymdeithas Cadwraeth Forol.  Rhoddodd y timau hyn sylw i 7000 metr sgwâr o’r traeth gan ddod o hyd i ond 1.5 bag bin o sbwriel, a dros hanner hwn yn blastig neu polystyren.  

Ymhellach draw ar hyd llwybr yr arfordir, bu Warwick Chemicals, Ysgol Bryn Pennant a Thîm Cadwraeth a Chefn Gwlad Sir y Fflint yn plannu, gwasgaru a gosod gwerth £1500 o fylbiau, planhigion, hadau a blodau gwyllt i fywiogi’r ardal.  Gweithiodd y tîm o 27 o blant ac oedolion yn galed gan dreulio cyfanswm o 120 awr ym Mostyn. 

Gweithiodd staff McDonalds, Ceidwad Presthaven a Cheidwaid Cefn Gwlad yn ddiflino yn ardal Llannerch y Môr i glirio mwy na 10 tunnell fetrig o ddeunydd wedi’i dipio’n anghyfreithlon yn ogystal â 40 bag o sbwriel.  

Bu Ceidwaid Sustrans allan eto yn codi sbwriel o borthladd Cei Connah i bont Queensferry.  Roeddent yn defnyddio eu beiciau i ddilyn y llwybr beiciau er mwyn canfod ardaloedd crynodedig o blastigion morol. 

Am y tro cyntaf ar gyfer Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy, ymunodd Ceidwaid Arfordirol Sir y Fflint gydag Adarwyr y Ddyfrdwy a staff yr RSPB, Y Weinyddiaeth Amddiffyn, Clwb Awyrennau Model Glannau Dyfrdwy a Landmark i glirio dros 2 dunnell o sbwriel a oedd wedi cronni ar y traethlin ger y maes tanio.  Croesawyd y lluniaeth gan Landmark ar gyfer y gwirfoddolwyr blinedig.  Cynorthwyodd Tata Steel gyda mynediad a chael gwared ar y pibellau gwydr ffibrog hir gan wneud gwahaniaeth aruthrol i edrychiad arglawdd gogleddol aber yr Afon Dyfrdwy. Hefyd, gwnaethant gasglu efallai’r eitemau mwyaf erioed wrth i flociau anferth o bolystyen dros 3m o hyd a 2m o led gael eu cario i'r traeth.

Yn Fflint, casglodd yr RNLI tua 10 bag o blastigion morol o’r blaendraeth. 

Rhoddodd prentisiaid Airbus a Galliford Try sylw i arglawdd gogleddol a deheuol yr afon o Saltney Ferry i ffin Cymru/Lloegr, gyda’r Ceidwaid Arfordirol a llenwodd dros 20 o wirfoddolwyr fagiau o sbwriel morol.  

Gweithiodd gwirfoddolwyr y Cei ar adfer yr hen borthladd ger canolfan dreftadaeth Kathleen a May. Symudwyd dros 10 bag o bridd a glaswellt a oedd yn gorchuddio nodweddion treftadaeth yr hen borthladd. Gweithiodd gwirfoddolwyr ac aelodau ar y cychod gan dorri’r goeden fêl a oedd yn tyfu o waliau'r porthladd.  

Bu Tesco yn codi sbwriel ar daith gylchol y Castell yn y Fflint gan fynd i lefydd anghyffredin i symud dros dunnell a hanner o sbwriel gan gynnwys argraffwyr, peiriannau gwnïo, hen feiciau, troliau Sainsbury, radios ceir a llawer iawn o blastigion morol a oedd wedi cronni ar hyd y blaendraeth.  Dyma un rhan yn unig o ddiwrnod Tesco gydag aelodau staff yn gweithio mewn 5 sir arall yn gwneud amryw o dasgau.

Bu Cyfeillion Parc Gwepra yn codi sbwriel yn y ffrwd ym Mharc Wepre, y grwp ARCH yn codi sbwriel yn nyffryn Maes Glas ac yna sgowtiaid Treffynnon yn codi sbwriel rhwng dyffryn Maes Glas a phorthladd Maes Glas.  Hefyd, cynhaliodd Cyfeillion Blaendraeth Bagillt ymarfer codi sbwriel yn Bettisfield a bydd Toyota yn ymuno â Groundwork i docio a chlirio yng Nghei Connah gan gwblhau blwyddyn lwyddiannus arall ar gyfer ‘Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy'.

Meddai Tom Woodall, Pennaeth Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol, Sir y Fflint;

 “Mae wythnos ddigwyddiadau ‘Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy' eleni wedi bod yn wych ac rydym yn falch iawn o'r gwaith gan ein grwpiau cadwraeth a chymunedol ac yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth busnesau lleol. Gallwn rwan edrych ymlaen at ddigwyddiadau'r flwyddyn nesaf a gobeithio y bydd mwy fyth o grwpiau yn dewis cymryd rhan i wneud yr Afon Dyfrdwy yn lle brafiach i bawb”

Meddai’r Cyng. Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad;

“Mae Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy rwan yn fodel llwyddiannus ar gyfer mynd i’r afael â’r pla sbwriel morol y tynnwyd sylw ato gan y gyfres Blue Planet diweddar ar y BBC. Hoffwn ddiolch i’r bobl hynny sy’n codi sbwriel yn barhaus ar yr arfordir, fel gwirfoddolwyr unigol a grwpiau, o Dalacre i Gaer. Maent allan hyd at dair gwaith yr wythnos ac mae ein Ceidwaid Arfordirol yn eu gweld ac yn eu hadnabod.  Llawer o ddiolch.