Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Meinciau Stori yn adlewyrchu barn y gymuned ar ddyfodol y blaendraeth

Published: 27/09/2018

Mae dau gymeriad lliwgar ar ffurf ‘Meinciau Stori’ wedi’u gosod ar flaendraeth y Fflint.   Wedi’u dylunio gan yr artist lleol Mike Owen, crëwyd y meinciau ar ôl trafodaethau gyda’r gymuned leol fel rhan o’r prosiect celf cymunedol a gynhaliwyd yn gynharach eleni, dan arweiniad Lorna Jenner a Lisa Heledd Jones, wedi’i drefnu gan Gyngor Sir y Fflint a’i gefnogi gan Cadw a Llywodraeth Cymru.

Gofynnodd y prosiect am farn y gymuned ynglyn â datblygiadau yr hoffent eu gweld ar flaendraeth y Fflint a ger Castell y Fflint. Crëwyd 'Siop Stori’ yn yr hen siop flodau ar Stryd yr Eglwys gan roi cyfle i bobl alw heibio a rhannu eu hatgofion o’r Fflint a’u gobeithion ar gyfer y dref a’r blaendraeth.

Nododd Lorna a Lisa:

“Roedd gan y siop stori wahanol adrannau yn ymwneud â’r castell a’r arfordir – lluniau archif o’r Fflint, atgofion o’r castell a’r blaendraeth, arddangosfa ynglyn â’r RNLI, rygbi a thimau pêl droed. Hefyd, gwnaethom edrych i’r dyfodol, a dyna o ble daeth y meinciau.   Ymatebodd dros 700 o ymwelwyr o bob rhan o’r gymuned gyda’u syniadau a helpu i siapio tair prif stori.

 

“Mae bob sedd stori yn cynnwys cymeriad wedi’i gerfio sy’n cynrychioli stori o'r arfordir a rannwyd yn ystod ein hamser yn y siop. Ar ôl edrych ar gynigion, cynigiwyd y dylai’r ffigurau fod yn filwr o’r Rhyfel Byd Cyntaf, pysgotwraig a llyw-wraig RNLI, sef cymeriadau sy’n cynrychioli gorffennol a phresennol y Fflint.” 

 

Dim ond un rhan o’r weledigaeth adfywio ehangach ar gyfer y blaendraeth yw’r prosiect hwn lle mae partneriaid yn cydweithio i geisio trawsnewid yr ardal yn gyrchfan cenedlaethol hanfodol ac yn borth i Ogledd Ddwyrain Cymru.  Bydd datblygiadau pellach yn cynnwys gosod y fainc stori derfynol, llifoleuadau a hefyd gwaith pellach ar y celf cyhoeddus mwy parhaol ar y blaendraeth.

 

Dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Cymru ar gyfer Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Ellis-Thomas;

 

‘Rwy’n falch o weld sut y mae ymgysylltu â'r gymuned yn ogystal â chyllid Llywodraeth Cymru wedi galluogi’r prosiect hyfryd hwn i helpu i adlewyrchu bywyd cyfoes a thalu teyrnged i dreftadaeth lleol pwysig. Mae hefyd yn rhoi hwb i’w groesawu i’r Fflint a’r ardal gyfagos.’

 

Dywedodd Peter Rooney, Rheolwr Achub Bywyd Ardal RNLI;

 

‘Mae’r RNLI yn rhan fawr o gymuned y Fflint, ac mae ein dyled yn fawr i’r bobl leol sy’n rhoi cymaint o gefnogaeth i’n helusen.  Rydym wrth ein bodd bod ein criw gwirfoddol yn cael eu cydnabod yn y fath fodd ac rydym yn gobeithio y bydd pobl yn mwynhau’r cerflun am flynyddoedd i ddod.’

 

Meddai’r Cyng. Vicky Perfect, Cynghorydd Sir y Fflint a Cheidwad Castell y Fflint;

 

“Ar ôl bod ynghlwm â’r prosiect hwn o’r dechrau, rwyf wrth fy modd â’r canlyniadau. Mae’r meinciau yn ased i’r castell, ac i'r Fflint yn gyffredinol.

 

Meddai’r Cyng. Carolyn Thomas, Aelod Cabinet yr Amgylchedd a Chefn Gwlad;

 

“Gosodwyd y meinciau gan Wasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint fel rhan o’u digwyddiadau a gweithgareddau glanhau Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy blynyddol, ac rwy’n siwr y byddant yn boblogaidd gydag ymwelwyr a phreswylwyr fel ei gilydd.”