Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgrife nydd Y Cabinet dros Addysg yn ymweld ag ysgol leol

Published: 04/10/2018

Kirsty Williams SRG 10.jpg     Kirsty Williams SRG 12.jpg

 

 

 

 

 

 

Bu Kirsty Williams, Gweinidog Addysg Cymru yn ymweld ag Ysgol Uwchradd Sant Richard Gwyn yn Y Fflint ar 4 Hydref.

Mae’r ymweliad i ddangos y gwaith ardderchog a wneir yn dilyn cynnydd buan Sant Richard Gwyn i ddod allan o Fesurau Arbennig Estyn mewn pedwar tymor yn unig. 

Dywedodd y Pennaeth, Mr Paul Heitzman:  

“Roedd Sant Richard Gwyn yn falch iawn o groesawu Kirsty Williams heddiw.    Cafodd y cyfle i gwrdd â’n myfyrwyr, staff, llywodraethwyr a chynrychiolwyr esgobaethol, roedd yn amlwg wedi mwynhau a rhannu ei gweledigaeth glir a chyffrous gyda nhw ar gyfer dyfodol addysg yng Nghymru.

”Roedd yr ysgol hefyd yn falch iawn o groesawu llawer o arweinwyr Cyngor Sir y Fflint.  Roedd yn gyfle i ddiolch iddynt am eu cyfraniad pwysig i'r cynnydd buan a wnaed gan Sant Richard Gwyn yn y blynyddoedd diwethaf. 

“I bawb yma, roedd yr ymweliad yn dathlu’r synnwyr cynyddol o bartneriaethau pwerus yma yn Sir y Fflint rhwng ysgolion a gyda’r Cyngor a GwE, y gwasanaeth gwelliant rhanbarthol.  Bydd y partneriaethau hyn yn ein gwasanaethu’n dda yn y blynyddoedd heriol ond cyffrous sydd o flaen Sant Richard Gwyn ac i addysg yng Nghymru.”

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:

“Hoffwn longyfarch llwyddiant Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn. Mae’r ysgol yn parhau i wneud cynnydd ardderchog ac rwyf yn sicr y bydd ymroddiad, gwaith caled ac ymrwymiad yr Esgobaeth Gatholig Rufeinig yn Wrecsam, yr athrawon, y staff cymorth, myfyrwyr, rheini a’r corff llywodraethu yn sicrhau bod yr ysgol yn mynd o nerth i nerth.”  

Dywedodd Kirsty Williams yn ystod ei hymweliad:

“Roedd yn bleser ymweld ag Ysgol Richard Gwyn heddiw a gwybod mwy am siwrnai o welliannau’r ysgol. Roedd yr athrawon a'r myfyrwyr wedi creu argraff arnaf wrth dynnu at ei gilydd er mwyn i’r ysgol gyrraedd ei llawn botensial. 

“Mae’r gwaith a wnaed yma yn Ysgol Richard Gwyn yn enghraifft wych o’r bartneriaeth rhwng y Cyngor, ysgolion a chyrff llywodraethu. Mae’r bartneriaeth hon yn parhau i gefnogi a gwella addysg yn y Sir ac mae hynny’n gyflawniad gwych."