Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ail-wynebu Ffordd Gerbydau'r B5129 Sandycroft

Published: 12/10/2018

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn dechrau ar waith ail-wynebu’r ffordd a gwneud gwaith cysylltiol ar y B5129 Sandycroft rhwng Leaches Lane a Wood Street ddydd Mawrth, 16 Hydref am tua 3 wythnos (yn ddibynnol ar y tywydd).  

Yn ystod y gwaith, bydd mesurau rheoli traffig dros dro ar waith. Bydd modd cael mynediad i eiddo a busnesau unigol o hyd, er y gallai fod peth oedi.

Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

“Er gwaethaf wynebu cyfyngiadau ariannol parhaus, rydym yn falch ein bod wedi gallu sicrhau cyllid ar gyfer y gwaith gwella pwysig ac angenrheidiol hwn i’n ffyrdd sy’n dangos pa mor bwysig yw cynnal a chadw’r rhwydwaith priffyrdd i’r Cyngor hwn.

Mae’r Cyngor a’n contractwr, Roadway Civil Engineerig Ltd, yn ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw oedi neu amhariad y bydd y gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn yn ei achosi, a byddwn yn ceisio cwblhau’r gwaith cyn gynted ag y gallwn.”