Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cadeirydd Sir y Fflint yn croesawu gwestai yn Neuadd y Sir

Published: 16/10/2018

DSC_2822.jpg

Bu i Gadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Paul Cunningham, a'i Gymhares, Mrs Joan Cunningham, groesawu John Grahams o Gymdeithas y Gedeoniaid i Ystafell y Cadeirydd yn ddiweddar.

Mae Cymdeithas y Gedeoniaid yn darparu Beiblau i sefydliadau addysg, gwestai, ysbytai a nifer o sefydliadau eraill ledled y wlad.   Cyflwynodd Mr Grahams Feibl i'r Cadeirydd a chyflwynodd y Cynghorydd Cunningham yn ei dro blac gydag Arfbais y Sir arno i Mr Grahams.