Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Dathlu Gwobrau Busnes Sir y Fflint

Published: 22/10/2018

Dathlwyd Gwobrau Busnes Blynyddol Sir y Fflint, am y ddeuddegfed flwyddyn, mewn seremoni wobrwyo yn Neuadd Sychdyn yn ddiweddar.

Mae’r Gwobrau, gyda'r prif noddwr AGS Security Systems, yn cydnabod rhagoriaeth a pherfformiad rhagorol gan fusnesau ar draws y sir.

winners.jpgCafodd enillwyr y deg categori eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo tei du arbennig nos Wener 19 Hydref. Gyda chynulleidfa o dros 200 o bobl fusnes dylanwadol, bu cwmnïau Sir y Fflint yn dathlu eu llwyddiannau.

Roedd hi'n noson wych i ddau gwmni, y naill yn ennill dwy wobr.   Enillodd Connor McAuley o DRB Group Wobr Prentisiaeth ac enwyd y cwmni fel y Busnes Gorau am fod yn Gyfrifol yn Gymdeithasol. Enwyd Pro-Networks fel y Busnes Gorau i weithio iddo ac fe enillodd eu gweithiwr, Paul Crudge, Wobr Person Busnes y Flwyddyn.

Gellir gweld crynodeb o'r holl enillwyr isod.

Cyflwynwyd Gwobr Etifeddiaeth yr Arglwydd Barry Jones gan y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Barry Jones i Leyla Edwards, sylfaenydd KK Fine Foods, i gydnabod ei gwasanaethau rhagorol i fusnesau lleol a'r economi.

 

legacy awards.jpgDywedodd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Jones, Llywydd Sir y Fflint mewn Busnes, Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy a Fforwm Busnes Glannau Dyfrdwy:

“Rwy’n falch o gyflwyno’r wobr i Leyla Edwards sy’n gwbl haeddiannol o’r wobr i gydnabod ei gwaith rhagorol i gefnogi Sir y Fflint – da iawn wir!”

Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint:

"Hoffwn longyfarch holl enillwyr eleni.  Mae’r gystadleuaeth wedi bod yn agos, fel arfer – nid wyf yn genfigennus o’r beirniaid sy’n gorfod gwneud y penderfyniadau!   Mae’n wych gweld y Gwobrau yn mynd o nerth i nerth.   Mae’n briodol mai thema’r Gwobrau eleni yw "Twf”.   Mae Cynnig Twf Gogledd Cymru yn hanfodol i sicrhau bod ein heconomi yn fwy gwydn ac yn cysylltu’n well er mwyn darparu mwy o gyfleoedd ar gyfer buddsoddiad sylweddol gan y llywodraeth a chyfleoedd ar gyfer twf busnesau yn y Sir.

“Hoffwn hefyd ddiolch i'n prif noddwyr, AGS Security Systems a’n holl noddwyr eraill, sydd wedi gwneud y digwyddiad gwych hwn yn bosibl unwaith eto.  Mae’n galonogol bod busnesau Sir y Fflint yn gweld gwerth yn y Gwobrau hyn ac eisiau cefnogi ei gilydd”.

Llongyfarchodd Jonathan Turner, Rheolwr Gyfarwyddwr AGS Security Systems, pawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol, gan ddweud:

"Rydym yn falch o fod yn brif noddwr Gwobrau Busnes Sir y Fflint 2018 am yr wythfed flwyddyn yn olynol ac i helpu i gydnabod y dalent, yr arloesedd a'r uchelgais enfawr yn y sir. 

"Yn AGS, fe welwn ni'r straeon llwyddiant o flwyddyn i flwyddyn yn y gwobrau.  Dyna pam yr ydym wrth ein bodd o fod yn rhan o Wobrau Busnes Sir y Fflint unwaith eto ac i helpu i ddathlu llwyddiannau'r nifer o sefydliadau.  Mae ein cwmni yn gwybod mwy na'r mwyafrif am yr hyn y mae ennill un o'r gwobrau hyn yn ei olygu i ymgeiswyr.”

Mae enillwyr a noddwyr y deg categori wedi eu rhestru isod:

 

Gwobrau

Noddwr

Enillydd

Prentisiaeth

Cambria for Business

Connor McAuley, DRB Group

Person Busnes y Flwyddyn

Westbridge Furniture Design

Paul Crudge, Pro-Networks

Busness Gorau gyda dros 10 o weithwyr

KK Fine Foods PLC

Wagtail UK

Busnes Gorau gyda llai na 10 o weithwyr

Edge Transport

Clwyd Brickwork

Busnes Gorau i weithio iddo

P&A Group

Pro-Networks

Entrepreneur

Pochin

Jane Bellis, Art & Soul

Busnes Mwyaf Cyfrifol yn Gymdeithasol  

Wates Residential

DRB Group

Arloesedd, Technoleg a Menter

Kingspan Insulated Panels

Salvtech

Menter Gymdeithasol Orau                    

Evans Maintenance Services

Cambrian Aquatics Sports Centre

Gwobr Etifeddiaeth yr Arglwydd Barry Jones     Leyla Edwards, KK Fine Foods

I gael rhagor o wybodaeth am Wobrau Busnes Sir y Fflint cysylltwch â Kate Catherall ar 01352 703221 neu ewch i http://www.flintshirebusinessweek.co.uk/.