Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn dathlu cyn-ysgolion iach

Published: 19/10/2018

Flintshire Awards 19.jpgCynhaliwyd Dathliad o Lwyddiant cyntaf Cynllun Cyn-Ysgol Iach a Chynaliadwy Sir y Fflint yn ddiweddar. 

Roedd y digwyddiad yn cydnabod cyflawniadau lleoliadau cyn-ysgol ym mhob agwedd o'r cynllun a'u hymrwymiad i iechyd a lles plant.  

 Mae’r Cynllun yn  fenter genedlaethol a ariennir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi’i gyd-lynu gan Gynllun Ysgolion Iach Sir y Fflint yn y portffolio Addysg ac Ieuenctid. 

Mae 42 o leoliadau yn cymryd rhan yn y cynllun yn Sir y Fflint ar hyn o bryd ac maent oll yn gweithio i hyrwyddo ac amddiffyn pob agwedd o iechyd gan gynnwys : gweithgarwch corfforol, maetheg ac iechyd y geg, iechyd emosiynol a lles, diogelwch, hylendid a lles eu staff. 

Agorwyd y digwyddiad gan Claire Homard, Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid a darparwyd cyflwyniadau gan Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac arbenigwr ymddygiad, Lynn Williams, a ddarparodd sgwrs llawn ysbrydoliaeth ar ymddygiad mewn plant oedran cyn-ysgol. 

Cyflwynwyd y Gwobrau gan Gadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Paul Cunningham, gyda’i Gonsort, Mrs Joan Cunningham.   Dywedodd y Cynghorydd Cunningham:

“Mae’n bleser cyflwyno’r gwobrau hyn heno.   Mae’r cynllun yn ei gwneud yn ofynnol i leoliadau cyn-ysgol arddangos eu bod wedi ymrwymo’n llwyr i hyrwyddo iechyd a lles.  Mae hwn wedi bod yn ddigwyddiad gwych a hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyfranogi."  

Y lleoliadau cyn-ysgol sydd wedi cwblhau’r cynllun yn llawn yw:  Meithrinfa Ddydd Wendy House ym Mrynffordd, Cylch Chwarae Croft yn Aston, Gwasanaethau Crèche Sir y Fflint a Meithrinfa Ddydd Treehouse yn y Fflint.  

Mae’r lleoliadau cyn-ysgol sydd wedi’u hailasesu eleni yn cynnwys: Meithrinfa Ddydd Rocking Horse ym Mrychdyn, Meithrinfa Ddydd Toybox yng Nghei Connah, Meithrinfa Ddydd ABC yng Nghefn y Bedd, Teddybear Towers yn y Fflint, Meithrinfa Ddydd Sunray yn Nercwys.  

Y lleoliadau sydd wedi’u hasesu’n llwyddiannus ar gyfer un neu fwy o themâu iechyd yn y flwyddyn ddiwethaf yw:  Cylch Chwarae Brychdyn, Cylch Meithrin yn Garden City, Playdays Crèche, Meithrinfa Ddydd Lil Angels yng Nglannau Dyfrdwy, Meithrinfa Ddydd Podlings yn yr Wyddgrug, Meithrinfa Ddydd Buttercups yn yr Wyddgrug, Cylch Chwarae Cyn-ysgol Sandycroft, Meithrinfa Ddydd First Steps yn Alltami, Gwasanaethau Gwarchod Plant Sian yng Nghei Connah, Meithrinfa Ddydd Hope Green ym Mhenyffordd.