Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Perfformiad Blynyddol

Published: 22/10/2018

Bydd perfformiad Cyngor Sir y Fflint yn ystod 2017-18 yn cael ei drafod mewn cyfarfod Cabinet ddydd Mawrth 23 Hydref cyn cyhoeddi Adroddiad Perfformiad Blynyddol y Cyngor.

Mae’r adroddiad yn adlewyrchu'r cynnydd da a wnaed ar y cyfan yn erbyn blaenoriaethau a nodwyd yng Nghynllun Gwella 2017/18, ac mae'n crynhoi cyflawniadau'r sefydliad. Mae Cyngor Sir y Fflint yn parhau i gael ei redeg yn dda a pherfformio'n dda. Mae ein perfformiad da cyson wedi cael ei gydnabod yn lleol ac yn genedlaethol.

Mae rhai o’n llwyddiannau i’w gweld isod:

 

  • Cwblhau Cam 1 a 2 SHARP – 138 uned yn cynnwys 62 o gartrefi fforddiadwy a reolir gan NEW Homes a 76 o dai cyngor.
  • Mae Safon Ansawdd Tai Cymru yn parhau i fod ar amser ac i’w gwblhau erbyn 2020.
  • Cafodd 293 o gartrefi newydd eu creu drwy ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd.
  • Cymeradwywyd 186 o geisiadau cynllunio ar gyfer tai fforddiadwy – y targed yw 50.
  • Cychwynnwyd ar Lys Raddington, yn agor fis Hydref 2018 - 73 o unedau gofal ychwanegol.
  • Cynllun Gofal Ychwanegol Treffynnon – y pedwerydd yn y Sir – 55 uned.
  • Dyfarnwyd Gwobr Gofal Cymdeithasol am gefnogi cartrefi gofal i gynnal a chodi safonau yn erbyn cynllun cenedlaethol (‘Progress for Providers’).
  • Derbyniodd dros 2000 o bobl sydd ar Gredyd Cynhwysol gymorth digidol (y targed yw 640).
  • Anogwyd dros 80% o landlordiaid ac asiantaethau gosod tai i gofrestru gyda Chod Ymarfer Rhentu Doeth.
  • Cytuno i gynllun busnes tai i adeiladu 50 o eiddo newydd y cyngor bob blwyddyn.
  • Cwblhaodd 628 o bobl gyrsiau a drefnwyd gan Cymunedau Yn Gyntaf (Cymunedau am Waith a Mwy bellach) – cwblhaodd 9 gwrs 2 wythnos dwys gyda Strydwedd a sicrhau gwaith.
  • Darparodd rhaglen rhannwch eich cinio llwyddiannus dros 14,500 o brydau bwyd am ddim dros gyfnod o chwe wythnos gwyliau’r haf i 20 o gynlluniau chwarae ar draws Sir Ddinbych.  Roedd hon yn fenter enfawr a’r cyntaf o’i math yn y rhanbarth.
  • Sefydlwyd Canolfan Cymorth Cynnar – atgyfeiriwyd 595 o deuluoedd na fyddent fel arfer wedi derbyn gwasanaeth.
  • Fe wellwyd amseru cynadleddau gwarchod plant cychwynnol.
  • Rhoddwyd Cynnig Cynnar Gofal Plant 3 – 4 oed a Gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru ar waith yn llwyddiannus; gan alluogi darparwyr gofal plant i gofrestru a darparu'r Cynnig ac i rieni sy’n gweithio cymwys sydd â phlant 3 - 4 oed ymgeisio am hyd at 30 awr, a hyd at 48 wythnos mewn blwyddyn academaidd.
  • Mae perfformiad yng Nghyfnod Allweddol 3 yn dda, ac mae’r Dangosydd Pwnc Craidd wedi dangos patrwm cyson cynyddol o welliant dros y 5 mlynedd diwethaf ac mae’n gyson yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol (yn cynyddu i 89.5% yn 2017, cynnydd o 1.1%).
  • Ehangodd y Cyngor ei rwydwaith o wasanaethau bws cymunedol a chynhaliwyd adolygiad o rwydwaith priffyrdd.
  • Gosodwyd systemau goleuo effeithiol mewn nifer o ysgolion ac yng Nghanolfan Parc Gwepra.
  • Sefydlwyd tri Model Darparu Amgen er mwyn gweithredu gwasanaethau’r cyngor – gwasanaeth Hamdden a Llyfrgelloedd Aura (o Fedi 2017), Arlwyo a Glanhau NEWydd (o Hydref 2018) a chytundeb 'Home Farms Trust’ (o Chwefror 2018).
  • Cyrhaeddwyd statws arian ar gyfer ein Cynllun Cydnabyddiaeth Gweithwyr fel rhan o Gyfamod Sirol y Lluoedd Arfog.
  • Gostyngwyd cyfraddau absenoldeb yn y Cyngor i’r lefel isaf eto, sef 8.89 diwrnod fesul gweithiwr llawn amser.
  • Gwellwyd y cyswllt ffôn i’r Cyngor drwy uno’r ddwy brif Ganolfan Gyswllt.
  • 77% o fesurau ein Cynllun Cyngor wedi eu gwella ers y llynedd.
  • 67% o fesurau perfformiad cenedlaethol wedi eu gwella.
  • 124 o drigolion wedi eu cefnogi i ostwng eu tariff ynni.
  • Bellach mae 10 Caffi Dementia yn Sir y Fflint a phedair Cymuned Cyfeillgar i Ddementia achrededig. Mae gan Sir y Fflint gyfanswm o 56 o fusnesau Cyfeillgar i Ddementia achrededig.
  • Cwblhawyd yr holl brosiectau a nodwyd yn y cais grant ar gyfer Yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy gan gynnwys amddiffyn rhag llifogydd, dyletswydd bioamrywiaeth a dwysau mannau gwyrdd.
  • Cytunodd y Cyngor i weithio mewn ffordd strategol er mwyn datblygu Gwasanaethau i Gwsmeriaid a gwneud y mwyaf o'n defnydd o dechnoleg ddigidol ym mis Mawrth 2017.

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett:

“Mae'r Cyngor yn gwneud cynnydd da mewn meysydd a nodwyd yn flaenoriaethau. Er gwaethaf pwysau ariannol mawr a llai o gyllid cenedlaethol, mae Sir y Fflint wedi bod yn greadigol ac wedi llwyddo i gyflawni ei nodau am flwyddyn arall.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Aaron Shotton:

“Mae'r Cyngor wedi profi unwaith eto ei fod yn sefydliad sy'n perfformio'n dda, gan osod targedau a chyflawni'r blaenoriaethau sydd wedi’u nodi yng Nghynllun y Cyngor.”   

Mae’n rhaid cyhoeddi’r Adroddiad erbyn 31 Hydref, ac yng nghyfarfod y Cyngor Sir ar 23 Hydref, bydd gofyn i’r cynghorwyr gymeradwyo’r adroddiad i gael ei gyhoeddi.