Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Nodyn Cyngor Datblygwr Tai Amlfeddiannaeth (HMO) Dros Dro 

Published: 19/10/2018

Gofynnir i Gabinet Sir y Fflint gymeradwyo cynnwys Drafft Nodyn Cyngor Datblygwr Tai Amlfeddiannaeth Dros Dro a chytuno i’w gyhoeddi i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus pan fydd yn cyfarfod yn ddiweddarach y mis hwn. 

Yn dilyn y newidiadau a wnaed i’r Gorchymyn Datblygu a Ganiateir gan Lywodraeth Cymru a oedd yn nodi bod rhaid cael caniatâd cynllunio i newid eiddo preswyl preifat yn Dai Amlfeddiannaeth, mae’r Pwyllgor Cynllunio wedi derbyn ac ymdrin â nifer o geisiadau o’r fath. 

Er bod Tai Amlfeddiannaeth wedi’u hadeiladu i geisio diwallu angenion tai yn Sir y Fflint, yn benodol o ran llety tymor byr fforddiadwy ar gyfer unigolion sengl, mae Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio wedi’i chael hi’n anodd ystyried ceisiadau o’r fath yn gadarnhaol gan nad oes canllaw penodol ar bolisi yn y Cynllun Datblygu Unedol a fabwysiadwyd. Maent wedi ymdrechu i fod yn hyderus bod amodau byw preswylwyr a chymdogion y dyfodol yn cael eu hasesu’n gywir, yn ogystal â’r effaith y gall datblygu Tai Amlfeddiannaeth (yn enwedig llawer o Dai Amlfeddiannaeth mewn un ardal) gael ar gymeriad ardal.

Dywedodd Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Chris Bithell:

 “Oherwydd y materion hyn, ac fel mesur dros dro, mae Nodyn Cyngor Datblygwr Tai Amlfeddiannaeth wedi’i lunio er mwyn egluro wrth ddatblygwyr y safonau a’r gofynion a ddisgwylir wrth gyflwyno ceisiadau am Dai Amlfeddiannaeth, yn ogystal â chanllaw ar feysydd allweddol megis gofynion parcio, yr effaith ar amodau byw cymdogion a rheolyddion yn ymwneud â nifer y Tai Amlfeddiannaeth mewn ardal.

“Er mwyn sicrhau ei fod yn ddylanwadol fel ystyriaeth gynllunio o bwys pan gaiff ei ddefnyddio i asesu ceisiadau ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth, mae’n rhaid i Nodyn Cyngor y Datblygwr gael ei gymeradwyo a rhaid ymgynghori arno’n gyhoeddus cyn iddo gael ei fabwysiadu.”

Mae’r Nodyn Cyngor yn cynnwys tair prif ran:

  1. Safonau’n ymwneud â gofod ystafelloedd, amwynder cyffredinol, darpariaeth cyfleusterau a lleoedd parcio yn gysylltiedig â datblygu Tai Amlfeddiannaeth a’r amodau byw yn ymwneud â’u deiliaid yn y dyfodol. 
  2. Safonau a gofynion ychwanegol i’r rheiny a nodwyd yn Rhan 1, yn ymwneud â datblygu fflatiau ar wahân neu fflatiau cymysg a fflatiau un ystafell. 
  3. Gofynion penodol yn ymwneud ag ystyried amodau byw'r eiddo cyfagos nad ydynt yn amlfeddiannaeth, yn cynnwys effeithiau ar gymeriad ardal. 

Bydd y camau nesaf yn cynnwys sicrhau bod y Nodyn Cyngor ar gael ar gyfer ymgynghoriad er mwyn gallu ystyried unrhyw ymateb, diwygio fel y bo’n briodol, a’i fabwysiadu’n ffurfiol fel ystyriaeth gynllunio o bwys, ochr yn ochr â’r Cynllun Datblygu Unedol.