Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Baw cwn

Published: 30/07/2014

Mae chwech o hysbysiadau cosb benodedig wedi cael eu rhoi i bobl yn y 10 diwrnod diwethaf am droseddau baw cwn wrth i Gyngor Sir y Fflint barhau i geisio dal pobl sy’n methu â glanhau ar ôl eu cwn. Yn ddiweddar mae’r Cyngor wedi penodi dau Swyddog Troseddau Amgylcheddol ychwanegol i ddatblygu’r gwaith da a wnaethpwyd gan y rhaglen lanhau mewn perthynas â throseddau amgylcheddol baw cwn. Mae troseddau amgylcheddol, yn arbennig baw cwn, wedi cael eu hamlygu fel blaenoriaeth gan drigolion Sir y Fflint. Gyda’r adnoddau ychwanegol hyn bydd Cyngor Sir y Fflint yn parhau i gynnal ei raglen lanhau ac yn gorfodi polisi dim goddefgarwch yn erbyn baw cwn er mwyn trosglwyddo neges glir na fydd yn cael ei oddef yn unrhyw ran o’r sir ac y bydd perchnogion cwn yn cael eu dal os methant â glanhau ar ôl eu cwn. Mae adnoddau ychwanegol yn golygu fod hysbysiadau cosb benodedig wedi cael eu dosbarthu – tri ym Mwcle, dau yng Nghei Connah ac un yn Northop Hall ac mae cyfanswm o 26 o hysbysiadau wedi’u dosbarthu am faw cwn ers i’r rhaglen lanhau ddechrau. Meddai’r Cynghorydd Kevin Jones, Aelod o’r Cabinet dros y Strategaeth Wastraff, Diogelu’r Cyhoedd a Hamdden: “Mae’r rhaglen lanhau yn ymgyrch barhaus ac rwy’n falch fod swyddogion yn dod ar draws cymaint o gerddwyr cwn cyfrifol sy’n codi baw eu cwn. “Fodd bynnag, mae lleiafrif anghyfrifol sy’n dal i fethu â glanhau ar ôl eu cwn. Drwy fabwysiadu dull gorfodi mwy cadarn, credaf ein bod yn cyfleu’r neges gryfaf bosibl na oddefir baw cwn.”