Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gofalwyr Maeth Sir y Fflint yn ennill Gwobrau Maethu

Published: 25/10/2018

Mae dau deulu maeth lleol Cyngor Sir y Fflint wedi eu hanrhydeddu mewn seremoni wobrwyo maethu genedlaethol a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Llundain (ar 24 Hydref 2018).

Gwobrau Rhagoriaeth Maethu, a gaiff eu cynnal gan y Rhwydwaith Maethu, yw’r prif wobrau gofal maeth yn y DU. Maent yn dathlu cyflawniad rhagorol ac amlwg mewn maethu ac yn cydnabod y rheiny sy’n gwneud cyfraniadau eithriadol i ofal maeth bob blwyddyn.

Yn ei bedwaredd flwyddyn bellach, mae Gwobrau Rhagoriaeth Maethu yn rhoi sylw i rai o bobl ifanc, gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol ac eraill sydd yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r gymuned faethu.

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:

“Mae hwn yn gyflawniad gwirioneddol wych, a hoffwn longyfarch yr enillwyr haeddiannol. Hoffwn ddiolch yn fawr hefyd – ar lefel bersonol ac ar ran Cyngor Sir y Fflint – i bob un o’n gofalwyr maeth. Mae gofalwyr maeth da yn gwneud gwahaniaeth i ddyfodol plant a'u cyfleoedd mewn bywyd. Maent yn agor eu cartrefi i ddarparu amgylchedd teuluol diogel, gofalgar a llawn maeth lle gall plant ddatblygu a ffynnu, a chyrraedd eu llawn botensial.  Rydym yn chwilio am fwy o bobl i fod yn ofalwyr maeth, am wybodaeth bellach, cysylltwch â Gwasanaeth maethu Sir y Fflint." 

Cyfraniad Rhagorol gan Wobr Meibion a Merched

Sons and Daughters - Beth and Rhi Goodwin (4).jpgMae Bethan, 18, Rhianna, 16 a Robert, 13, wedi bod yn rhan o’r broses faethu ers eu geni, oherwydd roedd eu rheini wedi dechrau maethu cyn cael plant. Ers hynny, mae maethu wedi’i wreiddio yn eu bywydau bob dydd. Er enghraifft, pan benderfynodd Bethan a Rhianna ysgrifennu am faethu fel rhan o’u haseiniadau Saesneg, roedd eu hathrawes mewn dagrau ac fe’i hysbrydolwyd hithau i fod yn ofalwr maeth hefyd.

Dros y blynyddoedd, mae bob un o’r tri wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau eu brodyr a’u chwiorydd maeth - drwy ddysgu i ganu mewn iaith arwyddion, bwydo babis newydd-anedig a bod yn gefnogol tu hwnt i bob agwedd o faethu eu rhieni.  

Mae Bethan, Rhianna a Robert wedi helpu i gynhyrchu cylchgrawn Thrive i bobl ifanc sydd wedi’u maethu yng Nghymru, maent wedi bod yn aelodau egnïol o’r grwp maethwyr ifanc yn cefnogi meibion a merched gofalwyr maeth ac wedi helpu i greu canllaw maethu i blant sy’n cynnwys cerddi y maent wedi’u hysgrifennu am faethu.

Dywedodd eu henwebydd, Jil Jones, o wasanaeth maethu Sir y Fflint:

“Mae Bethan, Robert a Rhianna yn sêr. Rydym wedi eu gwylio yn datblygu i fod yn bobl ifanc ymwybodol, gofalgar, meddylgar, caredig a hyderus tu hwnt, a dylai eu rhieni fod yn falch iawn o’r ffordd y maent wedi eu magu gyda maethu fel ffordd o fyw."

 

Beth and Rhi Goodwin with authorV2.jpg“Mae Beth, Rhi a Rob yn gynrychiolwyr maethu ardderchog a hefyd yn meddu ar garedigrwydd, anhunanoldeb ac aeddfedrwydd emosiynol. Maent yn angerddol am faethu a bob amser yn dangos hyn boed yn eu haseiniadau ysgol, ysgrifennu barddoniaeth neu’n cefnogi meibion a merched gofalwyr maeth eraill” Jaqueline Wilson, Awdur Tracey Beaker. 

Beth, Rhi a Jaqueline Wilson

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyfraniad Rhagorol gan Wobr Gofalwyr Maeth

Foster carer - Lesley and Mark Hughes (2).jpgMae Lesley a Mark wedi bod yn ofalwyr maeth i Gyngor Sir y Fflint am bedair blynedd. Maent ar hyn o bryd yn gofalu am ferch ifanc, sydd angen cymorth drwy'r dydd a nos oherwydd ei hanableddau a’i hanghenion iechyd cymhleth. Mae Lesley a Mark wedi’u hyfforddi mewn amrywiaeth o ymyraethau meddygol, ac mae sawl achlysur wedi codi lle y gallai'r canlyniad fod wedi bod yn ddifrifol iawn pe na baent wedi gweithredu’n syth. 

Mae’r gofal 24 awr yn gwneud bywyd yn heriol iawn i Lesley a Mark – er enghraifft bu’n rhaid iddynt dreulio un Nadolig yn yr ysbyty, ac aros tan fis Chwefror i ddathlu’r Nadolig â'u teulu.  Maent hefyd wedi bod yn cynnig cefnogaeth i deulu biolegol y ferch ifanc tra roedd hi’n brwydro am ei bywyd yn yr uned gofal dwys yn yr ysbyty.

Mae Lesley a Mark yn aros am addasiadau i’w cartref i gefnogi anghenion y plentyn ac i greu’r lle sydd ei angen ar gyfer offer meddygol arbenigol.

Mae gan Lesley a Mark deulu gwych i'w cefnogi, tîm aml-asiantaeth arbennig o weithwyr proffesiynol o wasanaethau iechyd, addysg a chymdeithasol, yn ogystal â chefnogaeth y tîm yn eu hosbis plant lleol, sy'n hanfodol bwysig iddynt.    

Dywedodd Debbie Sherlock, Gweithiwr Cymdeithasol gyda Chyngor Sir y Fflint a enwebodd Lesley a Mark:

“Mae gofalu am blentyn sydd ag anghenion o’r fath yn dasg heriol yn gorfforol ac yn emosiynol, ond mae Lesley a Mark yn llwyddo i wneud hyn â chariad, hwyl a thrugaredd."

Dywedodd Kevin Williams, Prif Weithredwr y Rhwydwaith Maethu:

“Mae’r gwobrau yn rhoi cyfle i ni daflu goleuni ar ein gofalwyr maeth arbennig a’u teuluoedd sy’n rhoi gymaint i ddarparu'r ansawdd bywyd gorau i’r plant a’r bobl ifanc sy’n dod i fyw â hwy.   Rydym yn edmygu eu natur anhunanol a’u hymrwymiad, ac yn llongyfarch y teulu Hughes a’r teulu Goodwin ar eu gwobrau haeddiannol.’

Am fwy o wybodaeth ynghylch bod yn ofalwr maeth gyda’r Cyngor lleol, ymwelwch â www.maethusiryfflint.org.uk neu ffoniwch 01352 701965.